Pafiliwn Corwen
Fe fydd contractwyr ar safle Pafiliwn Corwen o heddiw ymlaen i gychwyn ar y gwaith o ddymchwel yr adeilad.

Er bod trigolion lleol wedi ymgyrchu’n frwd dros gadw’r adeilad, fe benderfynodd Cyngor Sir Ddinbych y dylid cau’r Pafiliwn ym mis Ebrill 2010.

Roedd arolwg strwythurol wedi darganfod bod nifer o broblemau gyda strwythur y to a sylfeini’n dirywio.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych mai’r bwriad yw cwblhau’r gwaith o ddymchwel y pafiliwn erbyn canol neu ddiwedd mis Chwefror 2015.

I ddechrau, bydd y gwaith yn cynnwys clirio ardaloedd mewnol yr eiddo gan gynnwys cael gwared ar asbestos yn ddiogel.

‘Diwrnod trist’

Dywedodd y Cynghorydd lleol, Huw Jones: “Rwy’n deall y bydd hwn yn ddiwrnod trist i rai gan fod Pafiliwn Corwen wedi bod yn nodwedd allweddol yn y dref.

“Ond roedd adeilad o’r fath bob amser yn mynd i fod â hyd oes cyfyngedig ac roedd arolygon a gynhaliwyd yn 2010 yn dangos ei fod wedi dirywio i’r fath raddau fel nad oedd modd ei atgyweirio yn economaidd.”

Bydd y tir yn cael ei drosglwyddo yn ôl i’r gymuned wedi i’r contractwyr glirio’r safle a’i wneud yn ddiogel.