Tommo - un o bynciau trafod y flwyddyn
Wrth i ni dynnu tuag at ddiwedd blwyddyn arall, mae golwg360 wedi bod yn edrych nôl ar y newyddion mwyaf poblogaidd ar y wefan yn ystod 2014.

Dyma’r deg stori gafodd eu darllen fwyaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

1. Herio Radio Cymru i wella’r Gymraeg

Y stori fwyaf poblogaidd ar golwg360 eleni oedd un o bynciau llosg mwyaf y flwyddyn – y ffrae dros safon y Gymraeg ar raglenni BBC Radio Cymru.

Fe ysgrifennodd mudiad Dyfodol i’r Iaith at yr orsaf yn galw arni i wella safon iaith y cyflwynwyr a chwyno bod gormod o ganeuon Saesneg yn cael eu chwarae.

Ond fe darodd Radio Cymru nôl gyda’r golygydd Betsan Powys yn mynnu fod y newidiadau eleni, oedd yn cynnwys slot prynhawn newydd i Tommo, yn rhan o ymgais i geisio apelio at gynulleidfa ehangach.

2. Dros 80% yn gwrthwynebu MBE Efa’r Urdd

Y stori oedd yn un o’r pynciau trafod mwyaf ymysg y Cymry ar ddechrau’r flwyddyn, yn dilyn y newyddion fod Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr yr Urdd, wedi derbyn MBE gan y Frenhines.

Roedd y pwnc yn destun ar gyfer pôl piniwn cyntaf golwg360 yn 2014, gyda dros 300 o bobl yn pleidleisio a dros 80% yn anghytuno â’i phenderfyniad i dderbyn yr anrhydedd.

3. Pantycelyn i aros ar agor

Un o’r ymgyrchoedd mwyaf blaenllaw a ddigwyddodd eleni (a llynedd) oedd honno yn erbyn cynlluniau Prifysgol Aberystwyth i gau Neuadd Breswyl Pantycelyn.

Fe welsom ni amryw o brotestiadau a ralïau, gan gynnwys un amharodd ar ddiwrnod agored – ac ym mis Ebrill fe gafwyd gwybod y byddai’r neuadd cyfrwng Gymraeg yn cael ei chadw ar agor.

4. Cwtogi rhaglenni Pobol y Cwm

“Myn yffach i!” bytheiriodd Dai Sgaffalde (mae’n siŵr) pan glywodd gyhoeddiad y BBC ac S4C ym mis Mawrth eu bod am gael gwared ag omnibws dydd Sul opera sebon mwyaf poblogaidd Cymru, Pobol y Cwm.

O dan gynlluniau’r darlledwyr fe fyddai’r nifer o benodau yn cael eu torri o bump i bedwar, a saib o bythefnos yn cael ei gyflwyno, o fis Ionawr 2015 ymlaen.

5. Marw’r actor Gwyn Parry

Bob blwyddyn rydym yn ffarwelio a rhai wynebau adnabyddus, a trist oedd clywed eleni am farwolaeth yr actor Gwyn Parry.

Roedd yn enw cyfarwydd ar y radio a theledu, gan ymddangos mewn nifer o gyfresi cofiadwy gan gynnwys, A470, Treflan, Porc Peis Bach 2, Llafur Cariad, Pengelli a Phobol y Cwm.

6. Karen Owen yn celpio’r dosbarth canol

Un arall o’r straeon eleni drodd yn bwnc llosg, wrth i’r bardd Karen Owen brocio nyth cacwn gyda’i sylwadau am y dosbarth canol Cymraeg mewn erthygl yn y Cymro.

Honnodd bod y dosbarth canol Cymraeg wedi cymryd drosodd  mewn trefi yng Ngwynedd a Cheredigion a “gwneud i rai deimlo fel baw isa’r domen Gymraeg”, sylwadau daniodd y cecru ar-lein ac ar y tonfeddi.

7. S4C yn symud i Gaerfyrddin

Ym mis Mawrth fe gadarnhaodd S4C eu bod am symud eu pencadlys i Gaerfyrddin, ar ôl ystyried yr opsiynau oedd yn cynnwys adleoli i Gaernarfon neu aros ble roedden nhw yng Nghaerdydd.

Roedd y drafodaeth, a’r penderfyniad, ynglŷn â symud y pencadlys yn un a holltodd farn gan ysgogi trafodaeth danbaid, gan gynnwys ar bôl piniwn golwg360 ble bleidleisiodd dros 1,000 o bobl.

8. Marw Gerallt Lloyd Owen

Ar 15 Gorffennaf eleni bu farw un o feirdd mwyaf y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif, Gerallt Lloyd Owen, gyda Chymru yn gweld colled ar ei ôl.

Cafwyd teyrngedau lu i’r bardd a enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ac oedd yn adnabyddus am ei waith oedd yn cynnwys Cerddi’r Cywilydd.

9. Blog Byw Refferendwm yr Alban

Anghofiwch am unrhyw beth ddigwyddodd ym Mae Caerdydd na San Steffan – y pwnc gwleidyddol o ddiddordeb pennaf i’r Cymry Cymraeg yn 2014, heb os, oedd refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Roedd Blog Byw golw360 o’r noson yn un o’r straeon mwyaf poblogaidd eleni, gydag Ifan Morgan Jones, Dylan Iorwerth ac Iolo Cheung y dod â’r canlyniadau a’r ymateb diweddaraf o Gaeredin wrth i’r Albanwyr bleidleisio ‘Na’.

10. MBE Efa yn achosi rhwyg o fewn yr Urdd?

Nôl a ni at stori MBE Efa’r Urdd i gwblhau ein deg stori fwyaf poblogaidd yn 2014, wrth i gyn-gyfarwyddwr yr Urdd Cyril Hughes fynegi pryder bod ei phenderfyniad am achosi rhwyg o fewn y mudiad.

Rhybuddiodd Cyril Hughes y gallai penderfyniad Efa Gruffudd Jones i dderbyn yr anrhydedd “wneud i bobl feddwl nad oes ganddyn nhw [yr Urdd] ysbryd o Gymreictod.”

Deg Uchaf – Straeon Prydeinig y Flwyddyn

Deg Uchaf – Straeon Rhyngwladol y Flwyddyn

Deg Uchaf – Straeon Celfyddydau y Flwyddyn

Deg Uchaf – Straeon Chwaraeon y Flwyddyn

Deg Uchaf – Blogiau Poblogaidd y Flwyddyn