Alex Salmond, arweinydd yr SNP yn ystod y refferendwm dros annibyniaeth
Wrth i ni ddod tuag at ddiwedd blwyddyn arall, mae golwg360 wedi bod yn edrych nôl ar rai o’r straeon gafodd eu darllen fwyaf yn ystod 2014.

Dyma’r deg erthygl fwyaf poblogaidd yn trafod newyddion Prydain eleni, o refferendwm yr Alban i fewnfudwyr, y tywydd ac iaith.

1. Miloedd yn cwyno am bropaganda BBC

Dim syndod o weld bod y stori Brydeinig gafodd ei darllen fwyaf aml ar golwg360 yn ymwneud â refferendwm annibyniaeth yr Alban – ond stori i’w wneud â’r darlledwyr oedd hyn.

Fe arwyddodd dros 50,000 o bobl ddeiseb ym mis Medi, tuag wythnos cyn y refferendwm, yn cwyno fod y BBC wedi bod yn gohebu ar y pwnc mewn modd unochrog, ac fe gynyddodd y nifer yn sylweddol ar ôl sylwadau gan y gohebydd gwleidyddol Nick Robinson.

2. Saesneg yn “hanfodol” i fywyd ym Mhrydain

Mae sôn am fewnfudwyr wedi bod yn y newyddion yn gyson eleni, ac ar ddechrau’r flwyddyn fe awgrymodd y Gweinidog Cymunedau Eric Pickles y dylai pobl sydd yn symud i Brydain orfod dysgu Saesneg.

Dywedodd y Gweinidog nad oedd mewnfudwyr yn medru bod yn “aelodau llawn” o gymdeithas heblaw eu bod nhw’n dysgu’r iaith, a bod “cyfrifoldeb” arnynt i ddysgu Saesneg.

3. Spad newydd i’r Dirprwy Brif Weinidog

Un arall o ddechrau’r flwyddyn, wrth i’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg ychwanegu ‘spad’ – neu Special Advisor – o Borthmadog i’w dîm yn San Steffan.

Roedd Myrddin Edwards gynt yn Bennaeth Cyfathrebu i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ac fe ddywedodd wrth golwg360 nôl ym mis Ionawr ei fod yn edrych ymlaen at y “profiad cyffrous dros ben” o weithio yn y Llywodraeth.

4. Mewnfudwyr yn boddi cymunedau

Rhagor am fewnfudwyr, a’r tro hwn sylwadau gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon a ddywedodd fod mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd yn boddi cymunedau ym Mhrydain.

Yn ystod blwyddyn a welodd y llywodraeth yn ceisio ymddangos yn fwy llym tuag at fewnfudwyr fel ymateb i blaid UKIP, dywedodd Michael Fallon fod rhai trefi “dan warchae” gan fewnfudwyr o ddwyrain Ewrop.

5. Ken Barlow yn dysgu Cymraeg

Un o straeon annisgwyl y flwyddyn, wrth i ni glywed nôl ym mis Mehefin fod actor Coronation Street William Roache wedi bod yn dysgu rhywfaint o Gymraeg.

Yn gynharach eleni fe gafwyd William Roache yn ddieuog o droseddau rhyw, ac wrth i’w gymeriad ‘Ken Barlow’ ddychwelyd i’r opera sebon bu’n dysgu rhywfaint o eirfa newydd fel rhan o stori’r rhaglen.

6. Y tywydd stormus yn parhau

Fe ddechreuodd 2014 gyda thywydd garw i lawer ohonom ni, ac roedd y stormydd ar hyd arfordir Cymru ar draws tudalennau blaen papurau newydd Prydain am gyfnod.

Doedd pethau dal ddim wedi gwella erbyn mis Chwefror, wrth i’r tywydd garw barhau gan achosi marwolaethau, difrod a rhagor o drafferthion teithio.

7. Ffrae dros sylwadau hiliol Jeremy Clarkson

Dyw 2014 ddim wedi bod yn flwyddyn dawel i Jeremy Clarkson, ac fe gafodd cyflwynydd Top Gear ei hun mewn ffrae ym mis Mai wedi honiadau iddo ddefnyddio gair hiliol wrth recordio’r rhaglen.

Gwadu hynny wnaeth Clarkson, gan fynnu nad oedd yn hiliol – ond nid dyna’r unig dro iddo wynebu cyhuddiad o hiliaeth eleni, ac fe gafodd ef a chriw Top Gear eu hel allan o’r Ariannin am rif plât dadleuol hefyd.

8. Bob Crow wedi marw

Cafodd pawb yn y byd gwleidyddol eu synnu ar 11 Mawrth eleni pan fu farw’r undebwr Bob Crow yn ddim ond 52 oed.

Roedd ysgrifennydd cyffredinol yr RMT adnabyddus am frwydro achos ei weithwyr dros y blynyddoedd, gan sicrhau amodau gwaith ffafriol i weithwyr trafnidiaeth Llundain.

9. Salmond yn ymddiswyddo

Nôl at refferendwm annibyniaeth yr Alban, a diwrnod ar ôl y bleidlais a welodd yr Albanwyr yn dewis aros yn y Deyrnas Unedig fe benderfynodd Alex Salmond ymddiswyddo fel arweinydd yr SNP.

Ar ôl methu yn ei ymgais i geisio sicrhau Alban annibynnol, fe benderfynodd yr Aelod Seneddol Albanaidd dros Ddwyrain Aberdeenshire gamu o’r neilltu, ac fe gafodd ei olynu gan ei ddirprwy Nicola Sturgeon.

10. Salmond yn targedu sedd Danny Alexander

Beth nesaf i Alex Salmond ar ôl camu lawr fel Prif Weinidog yr Alban? Targedu sedd yn San Steffan wrth gwrs.

Roedd sôn y byddai’n ceisio targedu sedd y Democrat Rhyddfrydol Danny Alexander yn Inverness, ond yn y diwedd fe ddewisodd sedd Gordon fel yr un y bydd yn cystadlu amdani yn 2015.

Deg Uchaf – Straeon Rhyngwladol y Flwyddyn

Deg Uchaf – Straeon Celfyddydau y Flwyddyn

Deg Uchaf – Straeon Chwaraeon y Flwyddyn

Deg Uchaf – Blogiau Poblogaidd y Flwyddyn