Wrth i ni dynnu tuag at derfyn y flwyddyn mae golwg360 wedi bod yn edrych nôl ar rai o’r straeon mwyaf poblogaidd ar y wefan yn ystod 2014.

Dyma’r deg erthygl gafodd eu darllen fwyaf yng nghategori Celfyddydau yn ystod y flwyddyn, o gerddoriaeth i lenyddiaeth, theatr i ffilmiau.

1. Trafferth bysus Cymdeithas yr Iaith

Fe gafodd Cymdeithas yr Iaith eu hunain i mewn i bicil yn ystod Eisteddfod Sir Gâr eleni ar ôl i fws roedden nhw’n ei ddefnyddio i gludo teithwyr o’u gigs ei stopio gan y DVLA.

Doedd gwasanaeth gwennol Cymdeithas ddim wedi plesio’r gyrwyr tacsis lleol, oedd eisoes yn anhapus â threfniadau cludiant yr Ŵyl, ac fe roddon nhw air bach yng nghlust yr awdurdodau yn Abertawe.

2. Can newydd am Efa MBE

Mae 2014 yn sicr wedi bod yn flwyddyn gythryblus i brif weithredwr yr Urdd Efa Gruffudd Jones, wrth iddi gael ei beirniadu gan lawer am dderbyn MBE gan y Frenhines nôl ym mis Ionawr.

Doedd pobl ddim wedi anghofio’r peth erbyn Eisteddfod yr Urdd, wrth gwrs, a’r wythnos cyn yr ŵyl fe ryddhaodd Geraint Lovgreen gân yn procio hwyl am y ffrae.

3. Llond bol ar y llefaru

Un o flogiau Celfyddydau eleni gan Elis Dafydd, myfyriwr o Fangor, oedd yr erthygl hon yn holi a oedd hi’n bryd cael gwared â rhai o gystadlaethau ‘traddodiadol’ Eisteddfod yr Urdd.

Profiad “poenus” oedd gwylio cystadlaethau fel y llefaru i bartïon, yn ôl Elis, ac fe awgrymodd ei bod hi’n bryd gadael i draddodiadau o’r fath “farw” os nad oedden nhw’n cyfrannu at ein diwylliant ni heddiw.

4. Sengl Gymraeg gyntaf Forever Kings

Fe gafodd sengl Gymraeg gyntaf y band Forever Kings, ‘Miss Misery’, ymateb da iawn ar-lein ar ôl cael ei chwarae gyntaf ar golwg360.

Fe esboniodd prif ganwr y band o ardal Bangor, Bryn Williams, eu bod yn awyddus i greu mwy o gynnyrch dwyieithog – ond erbyn diwedd y flwyddyn roedd e a Gavin Malone wedi gadael i ffurfio band newydd Calfari.

5. Lleucu Roberts yn ennill yn yr Eisteddfod

Nôl a ni i Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, wrth i’r awdures Lleucu Roberts o Rostryfan ger Caernarfon gipio Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Rhwng Edafedd.

Doedd hi ddim wedi ymweld â’r llwyfan am y tro olaf, chwaith – y diwrnod wedyn fe enillodd y Fedal Ryddiaith am gyfrol Saith Oes Efa, gan gyflawni’r dwbl.

6. Enwebiadau Gwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014

Ym mis Ionawr fe gyhoeddwyd yr enwebiadau ar gyfer Gwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014, gydag amryw o actorion adnabyddus ar y rhestrau byr am rannau mewn dramâu fel Llanast!, Pridd, Tir Sir Gâr a Dyled Eileen.

Blodeuwedd gipiodd y wobr am y Cynhyrchiad Gorau yn yr iaith Gymraeg, gydag Owen Arwyn yn cael ei enwi’r actor gorau am ei ran yn Pridd, a Rhian Morgan yn cael ei gwobrwyo fel yr actores orau am ei rhan yn Dyled Eileen.

7. Gwasgod yn codi aeliau

Eisteddfod Sir Gâr unwaith eto, a rhywbeth ychydig yn anarferol y tro hwn wrth i ambell ael godi yn y pafiliwn o weld gwasgod liwgar arweinydd Band Ogwr.

Roedd yr arweinydd fflach wedi penderfynu gwisgo siaced Jac yr Undeb wrth i’w fand gloi eu repertoire gyda ‘Rule Britannia’ – er mawr syndod i neb, wnaethon nhw ddim ennill.

8. Cynnal momentwm gigs y Gorllewin

Un o flogiau Cerddoriaeth poblogaidd golwg360 eleni, gyda Miriam Elin Jones yn sgwennu ar ddechrau’r flwyddyn bod angen gwneud mwy i gynnal momentwm gigiau cerddorol yng ngorllewin Cymru.

Cyfeirio yr oedd hi at gyfnod prysur y gigiau dros wyliau’r Nadolig, gan obeithio y byddai modd efelychu’r bwrlwm hwnnw drwy gydol y flwyddyn – gan ddefnyddio safleoedd fel Tafarn y Parrot, a gyhoeddodd y bydden nhw’n aros ailagor ar ôl ymgyrch codi arian llwyddiannus.

9. Gruffudd Antur yn ennill Cadair yr Urdd

Mae pawb yn hoff o stori ‘local boy done good’, ac mi gawson ni hynny yn Eisteddfod yr Urdd Bala eleni pan enillodd y bardd ifanc talentog, Gruffudd Antur, Gadair ei eisteddfod ‘gartref’.

Roedd eisoes wedi ennill Cadair yr Urdd yn Eryri yn 2012, ac roedd y gynulleidfa wrth eu bodd unwaith eto eleni pan gododd ‘Gwenno’ yn y pafiliwn ar ôl dod i’r brig gyda’i awdl ar thema ‘Pelydrau’.

10. Cyffro Cannes

I fyd y ffilmiau yr awn ni i gwblhau deg stori Celfyddydau mwyaf poblogaidd 2014, ac fe fu Dylan Edwards yn ddigon ffodus i fynd i Ŵyl Ffilmiau Cannes i fusnesu ar ran golwg360.

Hon oedd ei flog yn rhoi rhagolwg o beth oedd yn edrych ymlaen at ei weld yn ystod yr ŵyl ffilmiau enwog, ac fe ysgrifennodd e ail flog ar ôl dychwelyd yn crynhoi’r uchafbwyntiau.