Mae blwyddyn arall o chwaraeon yn tynnu tua’i therfyn, ac felly dyma gyfle i ni edrych yn ôl ar rai o ddigwyddiadau cofiadwy’r flwyddyn a fu.

Dyma oedd y deg erthygl fwyaf poblogaidd yng nghategori chwaraeon ar golwg360 y flwyddyn hon.

1. Tîm yr Wythnos – Y Geltaidd

Un o’n heitemau Tîm yr Wythnos boblogaidd, ble buon ni’n rhoi sylw i dimau chwaraeon amrywiol ar hyd a lled Cymru a chael cip y tu ôl i’r llenni.

Y mwyaf poblogaidd o’r rhain oedd ein darn gyda chymdeithas chwaraeon Y Geltaidd o Brifysgol Aberystwyth, wrth i’r timau rygbi, pêl-rwyd a phêl-droed baratoi am Gala Chwaraeon yr Eisteddfod Ryng-Golegol.

2. Cwynion nad yw cyrff chwaraeon yn trydar yn Gymraeg

Ym mis Gorffennaf fe ddatgelodd ymchwil gan raglen materion cyfoes Hacio fod y mwyafrif llethol o gyrff rheoli chwaraeon yng Nghymru ddim yn trydar yn y Gymraeg.

Roedd y rhain yn cynnwys cyrff fel Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, oedd yn derbyn symiau mawr o arian cyhoeddus. Dim ond tri chorff chwaraeon allan o 19 oedd yn defnyddio’r Gymraeg ar Twitter pan wnaed yr ymchwil.

3. Cynhadledd i hybu’r Gymraeg mewn chwaraeon

Gan aros ar y thema o iaith a chwaraeon, cafodd cynhadledd i drafod ffyrdd o hybu a hwyluso’r Gymraeg ei threfnu gan Gomisiynydd yr Iaith a Chwaraeon Cymru ym mis Mawrth.

“Mae’n bwysig bod y Gymraeg yn rhan o ddiwylliant chwaraeon er mwyn galluogi unigolion yng Nghymru i fyw eu bywydau’n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg”, oedd neges Meri Huws ar y pryd.

Ond doedd y neges yn amlwg heb dreiddio erbyn i Hacio wneud eu hymchwiliad Twitter bedwar mis yn ddiweddarach.

4. Blog Byw Gemau’r Gymanwlad

Ah, Gemau’r Gymanwlad – un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf poblogaidd yr haf, a Blog Byw dyddiol golwg360 yn gyson yn un o’r straeon mwyaf poblogaidd ar y wefan.

Daeth yr uchafbwynt o ran poblogrwydd y blog ar 19 Gorffennaf, pan darodd tîm Cymru eu targed o 27 medal gyda phum diwrnod yn weddill wrth i Georgia Davies, Jazz Carlin a Daniel Jervis gipio medalau yn y pwll.

5. Tîm yr Wythnos – GymGym Caerdydd

Un arall o eitemau Tîm yr Wythnos, a’r tro hwn lawr efo myfyrwyr y ddinas fawr ddrwg oedden ni wrth i dîm rygbi GymGym Caerdydd baratoi i herio Y Geltaidd mewn gêm gyfeillgar.

Cafodd y gêm ei chwarae ar gae plastig ffantastig Parc yr Arfau, a bois y GymGym yn paratoi fideo yn edrych ‘mlaen at yr ornest – ond bechgyn Aber aeth a hi yn y diwedd o 17-6.

6. Tîm yr Wythnos – Ysgol Plasmawr

Ym mis Mai fe enillodd tîm dan-14 Ysgol Plasmawr le mewn twrnament yn Lilleshall yn erbyn ysgolion eraill o wledydd Prydain, rhywbeth greodd cryn dipyn o gyffro ac ymgais i godi arian ar gyfer y trip.

Doedd eu hyfforddwr Gwyn Jones ddim yn rhy hyderus ar ôl iddyn nhw gael eu dewis mewn grŵp gyda’r ddau dîm gorau – ond yn annisgwyl, fe lwyddon nhw i ennill y gwpan!

7. Anrhydedd i Angharad James

Ni chafodd tîm merched dan-19 Cymru fawr o lwyddiant y llynedd pan gollon nhw bob un o’u tair gêm mewn twrnament Ewropeaidd gafodd ei chynnal yn ne orllewin Cymru.

Ond fe serennodd un o’u plith, y chwaraewr canol Angharad James – a chael ei henwi yn nhîm y twrnament ym mis Ionawr eleni. Er ei bod hi dal dim ond yn 20 oed, mae ganddi dros 30 cap i dîm cyntaf Cymru yn barod.

8. Tîm yr Wythnos – Clwb Rygbi Cymry Caerdydd

Y bedwaredd eitem Tîm yr Wythnos yn ein Deg Uchaf, a’r tro hwn Clwb Rygbi Cymry Caerdydd oedd yn hawlio’r sylw wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer ffeinal Powlen SWALEC.

Llanilltud Fawr oedd y gwrthwynebwyr, ac fe lwyddodd Cymry Caerdydd i gipio’r tlws gyda buddugoliaeth agos o 16-10 yn Stadiwm y Mileniwm.

9. Angerdd yn troi’n obsesiwn?

Un o erthyglau Rhys Hartley, blogiwr pêl-droed golwg360, oedd y darn hwn, gyda Rhys yn pendroni a oedd ei angerdd am fyd y bêl gron yn troi yn obsesiwn.

O ddarllen llyfrau am hanes pêl-droed Liechtenstein i wylio gemau pedwaredd adran y Weriniaeth Tsiec, mae unrhyw un sydd wedi bod yn darllen blogiau Rhys dros y flwyddyn yn gyfarwydd â’r hanesion anarferol y mae’n ei adrodd.

Ac roedd pawb yn genfigennus wrth ddarllen am ei drip i Frasil dros yr haf – blog cyntaf Rhys o Gwpan y Byd oedd rhif 11 ar y rhestr, fel mae’n digwydd.

10. Ymgyrch i gysylltu chwaraeon a’r Gymraeg

Nôl at y Gymraeg a chwaraeon ar gyfer ein herthygl olaf yn y deg uchaf, a’r tro hwn mudiad Dyfodol i’r Iaith oedd yn galw am ymgyrch i hyrwyddo’r Gymraeg ym myd y campau.

Roedd hi’n galonogol clywed rhai o athletwyr Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn siarad yr iaith, yn ôl cadeirydd y mudiad Heini Gruffudd, a’r angen nawr oedd sicrhau bod gweithgareddau chwaraeon ar lawr gwlad hefyd yn digwydd drwy’r Gymraeg.