Alun ‘Sbardun’ Huws
Fe fydd S4C yn ail-ddarlledu rhaglen am y grŵp pop eiconig y Tebot Piws nos yfory, yn deyrnged i un o’r aelodau, Alun ‘Sbardun’ Huws, fu farw yn gynharach yr wythnos hon.

Yn un o gerddorion Cymreig amlycaf ei genhedlaeth, mae degau o bobol wedi talu teyrnged i’r gŵr o Benrhyndeudraeth, gyda’r cyflwynwr Richard Rees yn ei alw yn “athrylith”.

Wrth gyhoeddi’r ailddarllediad, fe ddywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C bod Cymru wedi colli rhywun a fu’n gawr yn y byd adloniant a theledu yng Nghymru dros y pum degawd diwethaf.

Y rhaglen

Bydd y rhaglen Gwreiddiau Roc: Y Tebot Piws gafodd ei dangos am y tro cyntaf yn 2011 yn cael ei darlledu nos Iau, 18 Rhagfyr am 9.30yh.

Mae’n olrhain hanes cychwyn y grŵp a sut y daeth Dewi Pws, Emyr Huws Jones, Alun ‘Sbardun’ Huws a Stan Morgan-Jones at ei gilydd ar ddiwedd y 1960u i gynnig ysbryd ffres i ganu Cymraeg.

Bu Alun ‘Sbardun’ Huws hefyd yn aelod achlysurol o rai o grwpiau eraill mwyaf y cyfnod, gan gynnwys Ac Eraill a Mynediad am Ddim.