M
Mark Drakeford - 'trychineb'
ae rheolwyr llinell gymorth sy’n helpu pobol rhag lladd neu niweidio eu hunain wedi croesawu cynllun cymorth newydd gan Lywodraeth Cymru.

Siarad â Fi 2 yw’r ail gam yn yr ymdrech i atal hunanladdiad ac mae’n gosod nodau ac amcanion strategol i atal a lleihau hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru tros y pum mlynedd nesa’.

Bwriad y cynllun newydd yw nodi pwy sy’n wynebu risg, y gofal y dylen nhw ei dderbyn  a ble mae gofal ar gael.

Fe gyhoddodd y Llywodraeth heddiw eu bod yn cynnal ymgynghoriad ar y cynlluniau rhwng hyn a dechrau Mawrth.

Yr ystadegau

  • Mae rhwng 300 a 350 o bobol yn lladd eu hunain yng Nghymru bob blwyddyn – tair gwaith mwy na’r nifer sy’n marw mewn damweiniau ar y ffyrdd.
  • Ar ben hynny, mae tua 5,500 o bobol yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty bob blwyddyn ar ôl niweidio eu hunain.

‘Trychineb’

Mewn datganiad, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: “Mae hunanladdiad yn digwydd fel arfer mewn ymateb i gyfres o ffactorau cymhleth, rhai personol a rhai sy’n gysylltiedig â dylanwadau cymdeithasol a chymunedol ehangach.

“Mae’n drychineb ac yn achosi trallod i lawer o bobl – yr unigolyn, teulu, cyfeillion, gweithwyr proffesiynol a’r gymuned ehangach.”

Fe gododd ymwybyddiaeth o hunanladdiad yng Nghymru ar ôl cyfres o farwolaethau ymhlith pobol ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mewn cyfnod o ddwy flynedd rhwng 2007 a 2009, roedd 25 o bobol wedi lladd eu hunain, a 24 o’r rheiny trwy grogi.

Yn 2009 y cafodd Siarad â Fi ei sefydlu.

‘Angen canolbwyntio’

Fe ddywedodd rheolwr llinell gymorth yn y maes ei bod yn gobeithio y byddai’r ail gam yn adeiladu ar y cyntaf.

Ond mae Janet Roberts, o’r Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol (CALL), yn dweud bod diffyg o hyd o ran cymorth i bobol ar ôl triniaeth gychwynnol.

“Mae’r cyfnod cyntaf wedi canolbwyntio ar ddulliau o atal hunanladdiad a hunan-niweidio a gobeithio y bydd yr ail gam yn adeiladu ar elfennau positif y cam cyntaf,” meddai wrth Golwg360.

‘Dechrau araf’

“Roedd y cam cyntaf ychydig yn araf ar y dechrau ond dydy hynny ddim yn anarferol gyda chynlluniau newydd, gan ei bod yn cymryd cryn amser weithiau i gynlluniau newydd gydio,” meddai Janet Roberts.

“Y peth pwysig yw fod gwasanaethau ar gael fel bod modd cyfeirio pobol atyn nhw, ac mae’n bwysig hefyd fod gan unigolion wydnwch emosiynol.

“Yr hyn sy’n fy mhoeni i fel rheolwr llinell gymorth yw fod pobol yn niweidio’u hunain ac yn dod oddi ar driniaeth heb fod ganddyn nhw rywle i droi.

“Mae angen i bobol wybod fod llefydd ar gael iddyn nhw fynd i dderbyn cymorth.”

“Yr hyn yr hoffwn i weld yn digwydd yn yr ail gam hefyd yw fod mwy o bobol yn dod i gynnig eu profiadau personol fel bod modd i bobol deimlo bod yna rywun sydd wedi bod trwy’r un profiadau â nhw.”

Cymorth

Os ydych chi am siarad â rhywun, cysylltwch â’r Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol (CALL) ar Radffon 0800 132737 neu tecstiwch HELP a’ch cwestiwn i 81066.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Samariaid ar 08457 909 090.