Gerald Morgan
Mae trefnwyr Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth wedi cyhoeddi mai’r awdur, y cyn-brifathro a’r darlithydd Gerald Morgan sydd wedi ei ddewis i arwain gorymdaith 2015.

Mae tywysydd wedi cael ei ddewis i arwain Pared Gŵyl Dewi bob blwyddyn ers ei sefydlu yn 2013 – fel arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson lleol sydd wedi gwneud cyfraniad i iaith a diwylliant Cymru.

Bydd Gerald Morgan yn dilyn ôl traed Megan a Gwilym Tudur, sylfaenwyr Siop y Pethe, a’r Dr Meredydd Evans.

Fel Tywysydd bydd yn gwisgo sash a grëwyd yn unswydd i’r Parêd gan Caroline Goodband o’r Borth ac sy’n cynnwys enwau cyn-dywyswyr. Yn dilyn y traddodiad o Wlad y Basg, bydd hefyd yn cael rhodd i’w gadw o ffon gerdded wedi ei gerfio gan Hywel Evans o Gapel Dewi.

Ganed Gerald Morgan yn Brighton yn 1935 i rieni o Gymru. Graddiodd mewn Saesneg o Gaergrawnt ac mewn Astudiaethau Celtaidd o Rydychen gan symud i fyw i Gymru yn 1962.

“Mae cryfder ac amrywiaeth y Gymraeg yn Aberystwyth oherwydd pobol fel Gerald Morgan,” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd Parêd Gŵyl Dewi.

“Gellid yn hawdd fod wedi ‘colli’ Gerald i Gymru ond gwyddai ers yn blentyn mai Cymro ydoedd ac yn ddyn ifanc penderfynodd fod gan Gymru a’r Gymraeg lawer i’w gynnig iddo. Gwn fod ganddo yntau lawer iawn i’w gyfrannu i Gymru a’i hiaith hefyd.”

‘Syfrdan’

Ychwanegodd Gerald Morgan: “Cefais fy syfrdanu a’m cyffroi o gael cynnig yr anrhydedd hon. Mae’n fraint cael dilyn yn ôl traed Merêd a Gwilym a Megan sydd wedi gwneud cymaint dros Gymru a’n hiaith.”

Cynhelir Parêd 2015 ar ddydd Sadwrn, 28 Chwefror, i ddechrau o Gloc y Dre.