Xbox One
Mae’n annhebygol iawn y gwelwn ni fersiynau o gemau cyfrifiadurol fel FIFA a Call Of Duty yn y Gymraeg yn y dyfodol agos, yn ôl blogiwr technolegol.

Dywedodd Daf Prys, sydd yn blogio i golwg360 a Fideo Wyth, y byddai’n costio gormod i’r cwmnïau mawr sydd yn cynhyrchu’r gemau wneud hynny.

Daw ei sylwadau ar ôl i Rhys Mwyn ddweud yn ei golofn yn Yr Herald Gymraeg mai’r her nesaf i’r Gymraeg oedd ceisio sicrhau bod pobl yn medru defnyddio’r iaith ar eu hoff gemau Playstation ac Xbox.

Costau i’r cwmnïau

Mae’r cwmnïau sydd yn cynhyrchu’r gemau cyfrifiadurol poblogaidd eisoes yn cynnig yr opsiwn o chwarae mewn gwahanol ieithoedd ar lawer o gemau.

Ond fyddai hi ddim werth y gost iddyn nhw wneud hynny yn y Gymraeg, yn ôl Daf Prys, ac felly nid yw’n  rhagweld sefyllfa ble byddan nhw’n dewis gwneud hynny.

“Dyw e ddim yn realistig [disgwyl fersiynau Cymraeg] achos busnesau yw’r cwmnïau yma, d’yn nhw ddim yma i wneud pobl Cymraeg yn hapus,” esboniodd Daf Prys.

“Mae e’n hollol market-driven.

“Mae ‘na ambell iaith ar gael [ar y gemau yma] fel Ffinneg, Swedeg, Rwsieg, ond mae hwnna’n gymwys i filiynau o bobl.

“Os ti’n sôn am faint o [siaradwyr Cymraeg] ti’n meddwl sydd am ddefnyddio’r cynnyrch, beth sydd ‘da ti yw nifer fach iawn o bobl. Dyw e ddim yn mynd i fod yn cost-effective iddyn nhw gyflogi rhywun i wneud y gwaith ‘localisation’ yna.”

Dim sgorgasms Sgorio

Mae rhai gemau cyfrifiadurol gan gynnwys Enaid Coll gan Wales Interactive wedi cael eu gwneud yn y Gymraeg yn ddiweddar.

Ond roedd rhaid dibynnu ar gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ac S4C i wireddu prosiectau o’r fath, gan bod hyd yn oed cwmnïau o Gymru yn ei gweld hi’n anodd creu elw o gynnyrch Cymraeg.

Mae Daf Prys yn cyfaddef y gallan ni glywed sgorgasms sylwebaeth Malcolm Allen ar gemau FIFA yn yn y dyfodol petai’r llywodraeth eisiau rhoi’r gefnogaeth ariannol i gwmnïau fel EA Sports.

Ond byddai’n well ganddo weld Cymry yn datblygu gemau unigryw ei hun fyddai wedyn yn gallu cael eu gwerthu i’r byd, yn hytrach na jyst fersiynau Cymraeg o’r gemau mawr.

“Fi’n teimlo bod modd gyrru cynnyrch sydd yn cynnwys yr iaith Gymraeg i mewn i sefyllfaoedd gwahanol ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol,” meddai Daf Prys.