Clawr hunangofiant Rhys Meirion
Mae peryg i ddarllenwyr gael llond bol ar hunangofiannau yn ôl un golygydd llyfrau annibynnol.

Ond mae Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau yn mynnu bod y math yma o lyfrau yn dal i ddenu darllenwyr at y Gymraeg.

Ers blynyddoedd bellach mae bywyd sawl Cymro adnabyddus yn cael sylw mewn hunangofiannau, ac eleni mae’r hanesydd John Davies, y Prifardd T James Jones, Eric Jones y dringwr, y pysgotwr Huw Erith, yr actores Marion Fenner, y canwr Rhys Meirion a’r cyflwynydd radio Tommo yn hel atgofion.

Ond mae peryg i’r ffynnon fynd yn sych yn ôl sy’n ennill ei bara menyn yn y byd llenyddol.

“Mae’n anodd gweld pwy sydd ar ôl i ysgrifennu’i hunangofiant bellach,” meddai Bethan Mair o gwmni Geiriau, sydd hefyd ar fwrdd y Cwlwm Cyhoeddwyr.

“Mae pob un seleb (a’i gi!) wedi gwneud erbyn hyn, does bosib? Hunangofiannau da sy’n boblogaidd, ond os oes rhaid crafu gwaelod y gasgen i gael pobol addas, a rhai sy ddim mor addas, buan y bydd darllenwyr yn blino.”

Yn ôl Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau “mae hunangofiannau yn gwerthu’n arbennig o dda” ac yn denu pobol newydd i ddarllen yn Gymraeg.

“Dw i mor falch bod yna bobol yn dod aton ni ac yn dweud eu bod nhw wedi darllen hunangofiant,” meddai Elwyn Jones.

Y cyfrinachau i gyd?

Un o’r pethau sy’n llyffethair i hunangofiant da yw bod Cymru yn wlad mor fach, yn ôl yr awdur Jon Gower.

“Un o broblemau gwneud cofiant i weithio yw eich bod chi fod i agor eich calon a rhannu’r cyfrinachau,” meddai. “Un peth sy’n milwriaethu yn erbyn hynny yn y Gymraeg yw parchusrwydd a phethau felly, a’ch bod chi ddim mewn gwirionedd yn gallu dweud y gwir am bethau. Mae’n anoddach yn Gymraeg achos r’yn ni gyd yn ‘nabod ein gilydd.”

Ymchwiliad arbennig i ffenomenon yr hunangofiant Cymraeg yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.