Mochyn daear
Mae mwy na 1,300 o foch daear wedi cael eu brechu rhag y diciâu mewn gwartheg (TB) yng Nghymru eleni mewn cynllun i reoli’r afiechyd, cyhoeddodd y Gweinidog Amaeth a Bwyd Rebecca Evans.

Mae’n golygu bod mwy na 4,000 o’r anifeiliaid wedi cael eu brechu ers i’r cynllun, fydd yn rhedeg am bum mlynedd ar y cyfan, gael ei lansio tair blynedd yn ôl.

Dywedodd Rebecca Evans wedi iddi gyhoeddi’r ffigyrau diweddaraf:

“Mae TB yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu diwydiant amaeth Cymru, ac rwy’n ddiolchgar i ffermwyr sydd wedi gadael i ni gael mynediad i’w tir er mwyn cwblhau’r gwaith.

“Rwy’n falch bod Cymru yn arwain y ffordd ar frechu moch daear ac mai dyma’r prosiect fwyaf erioed ym Mhrydain.”

Yn y flwyddyn gyntaf o’r cynllun brechu, cafodd 1,400 o foch daear eu brechu, yna fe gafodd 1,350 eu brechu yn yr ail flwyddyn.