Andrew Morgan arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dweud nad oes bwriad i gyflwyno cynllun uno gwirfoddol gyda Merthyr Tudful ar hyn o bryd.

Ond dywedodd y cyngor eu bod yn parhau i drafod y posibilrwydd o uno yn ogystal â thrafod cydweithio posib gyda Chaerdydd.

Mewn datganiad heddiw, dywedodd Pennaeth y Cyngor, Andrew Morgan bod maint daearyddol Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â gallu’r cyngor i wneud toriadau – gan honni bod y cyngor wedi cwtogi tua £1 miliwn o gostau gweinyddol yn ddiweddar – yn golygu y byddai’r sir yn medru ”sefyll ar ei phen ei hun”.

Ychwanegodd: “Cyn cyflwyno cynllun uno i’r Gweinidog Llywodraeth Leol, roedden ni’n cydnabod bod angen cynllun busnes er mwyn dangos sut yn union y byddai’r uno yn gweithio er budd gwasanaethau a phobol Rhondda Cynon Taf.”

“Ond roedd pob ochr o’r siambr yn cytuno nad oedd y cynllun yn barod eto.”

Comisiwn Williams

Mae disgwyl i 22 o gynghorau Cymru benderfynu os ydyn nhw am uno’n wirfoddol a chyngor cyfagos, yn unol ag argymhellion Comisiwn Williams, erbyn diwedd yr wythnos.

Awgrym y comisiwn yw cwtogi’r cynghorau o 22 i unai 10,11,12 ond mae Leighton Andrews wedi dweud bod rhai eisiau gweld cyn lleied â chwe chyngor.

Dim ond Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg sydd wedi dweud eu bod yn fodlon ystyried uno.