Casnewydd
Mae gwrthryfel yng Ngwent lle cafodd 22 o bobol eu saethu’n farw yn cael ei gofio mewn rhaglen ddogfen nos Sul ar S4C.

Bydd yr hanesydd Dr Elin Jones yn edrych ar wrthryfel y Siartwyr yn 1839, ac yn ceisio dangos pam fod y mudiad yn parhau i fod yn berthnasol i Gymru heddiw.

Dywed yr hanesydd fod y bennod hon yn hanes Cymru, ac yn hanes y de-ddwyrain yn benodol, wedi cael ei hesgeuluso.

“Ers dwy ganrif, bu pobol Cymru yn dadlau dros yr hawl i bleidleisio – ac yn ymladd drosto, yn cael eu herlid, eu carcharu a’u lladd. Ond wrth i ni agosáu at Etholiad Cyffredinol 2015, faint ohonom ni’r Cymry sy’n gwybod am y gwaed a dywalltwyd yn y cornel hwn o’n gwlad er mwyn ennill yr hawl i bleidleisio?” meddai.

Cymru, Lloegr a Llanidloes

Yn ystod y rhaglen bydd Dr Elin Jones yn mynd ar daith o Lundain – lle cyflwynodd y Siartwyr eu gofynion am ddemocratiaeth lawn yn y lle cyntaf – i Lanidloes lle gwelwyd y gwrthryfel cyntaf yng Nghymru, i lawr i gymoedd Gwent ac ymlaen i Gasnewydd.

Yno ar 4 Tachwedd 1839 gorymdeithiodd hyd at saith mil o gefnogwyr y Siartwyr, dan arweiniad y teiliwr John Frost, er mwyn rhyddhau cyd-brotestwyr oedd wedi eu carcharu yng Ngwesty’r Westgate. Yn ystod y brotest lladdwyd 22 o bobl pan ddechreuodd milwyr danio atyn nhw. Cafodd yr arweinwyr eu cyhuddo o deyrnfradwriaeth a chafon nhw eu halltudio am oes.

Mae’r hanesydd o Ystrad Mynach Dr Elin Jones yn cyfaddef iddi gael sawl agoriad llygad yn ystod y broses o greu’r ffilm ddogfen am yr hanes.

Meddai Dr Elin Jones, “Yn bersonol, er i mi ddysgu ac astudio hanes y Siartwyr am flynyddoedd, rwyf wedi cael sioc o sylweddoli cyn lleied y gwyddwn i amdano, ac yn enwedig am y cysylltiadau uniongyrchol â’m milltir sgwâr.”

Paul y Siartwr

Penllanw’r daith fydd ymweliad a’r Senedd ym Mae Caerdydd a chlywn gan Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd Paul Flynn, sydd wedi arddel traddodiad Y Siartwyr trwy ei oes ac sy’n dwyn yr enw Paul y Siartwr yn yr Orsedd.  Mae wedi ffurfio siartr newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, sy’n cynnwys y sicrwydd bod pob pleidlais o werth cyfartal a bod pleidlais i bawb dros 16 oed.

Meddai Dr Elin Jones, “Mae perygl i ni anghofio perthnasedd y Siartwyr i’n hoes ni, ac ymdrech i atgoffa pobl o’u pwysigrwydd yw cymhelliad y rhaglen hon.”

Gwrthryfel Gwent, Stori’r Siartwyr, Nos Sul 23 Tachwedd am 7 o’r gloch, ar S4C