Y ffatri ym Mrychdyn
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £8.1million arall i gwmni creu awyrennau Airbus ym Mhrychdyn er mwyn i’r cwmni allu hyfforddi gweithwyr newydd.

Fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn gwneud y cyhoeddiad yng Nghynhadledd Busnes Prydain yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd heddiw.

“Mae’r diwydiant aerofod yn hynod bwysig yng Nghrymu ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod sgiliau’r gweithlu yn symud ar yr un cyflymder a’r datblygiad technolegol yn y maes,” meddai.

“Bydd y cyllid yma yn helpu i warchod swyddi ym Mrychdyn a sicrhau ein bod ni’n parhau i fod ar flaen y gad gyda thechnoleg yn y farchnad hynod gystadleuol hon.”

Cefndir

Mae Airbus, sy’n cyflogi 600 o bobol ac yn adeiladu tua 900 o adenydd bob blwyddyn, wedi derbyn grantiau cyson gan y Llywodraeth dros y blynyddoedd gan gynnwys symiau o £28 miliwn yn 2009.

Grant i’r ffatri oedd achosion un o ddadleuon cynnar y Cynulliad, gyda rhybuddion y gallai’r gwaith fod mewn peryg os nad oedd y Llywodraeth yn rhoi grant o £25 miliwn iddo.