Y stormydd yn Aberystwyth ym mis Ionawr
Mae Aberystwyth wedi ennill gwobr yn dilyn ymateb y trigolion i’r difrod gafodd ei achosi gan y stormydd garw ar ddechrau’r flwyddyn.

Yr Academy of Urbanism, sefydliad sy’n cydnabod sut mae trefi wedi datblygu eu hamgylchedd a’u heconomi, oedd yn cynnal y gwobrau ac fe gafodd Aberystwyth hefyd ei chanmol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y dref i hybu ei hapêl.

Roedd y dref lan môr yng Ngheredigion yn cystadlu yn erbyn Beverley, Swydd Efrog a Bury, Swydd Gaerhirfryn am y teitl Tref Orau 2015.

Dywedodd Tim Challans, prif asesydd y wobr: “Roedd gwytnwch y dref wrth adfer ei hun ar ôl y stormydd yn profi bod y trigolion yn teimlo’n angerddol iawn am eu cartrefi.”

Roedd y seremoni yn dathlu dinasoedd, trefi, strydoedd a llefydd sydd wedi dangos agweddau arloesol ac arbennig.

Rotterdam yn yr Iseldiroedd ddaeth i’r brig fel Tref Orau Ewrop 2015.