Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion wedi i feicwraig gael ei lladd mewn damwain ffordd yn Sir Ddinbych ddoe.

Fe gafodd y wraig yn ei 40au ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd, cyn cael ei throsglwyddo i ysbyty yn Stoke, lle y bu farw dros nos. Roedd y wraig yn dod o Sir Ddinbych.

Fe ddigwydd y gwrthdrawiad rhwng beic a lori, tua 10.45yb ar ffordd y B5428 rhwng Trefnant a Henllan.