Tyrbin gwynt
Mae disgwyl i adolygiad barnwrol gael ei gynnal i’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio i godi tyrbin gwynt yn Nhalacharn.

Rhoddodd Cyngor Sir Gâr sêl bendith i’r cynllun i godi’r tyrbin gyferbyn â Boat House Dylan Thomas ym mis Mehefin.

Wrth roi eu sêl bendith, aeth Cyngor Sir Gâr yn erbyn cyngor swyddogion gan roi hawl i godi tyrbin 45 metr o uchder.

Roedd cannoedd o brotestwyr, gan gynnwys Cymdeithas Dylan Thomas, yn gwrthwynebu’r cynllun, gan fynnu ei fod yn “gwawdio canmlwyddiant geni’r bardd”.

Derbyniodd y Cyngor 422 o lythyron yn gwrthwynebu’r cynllun yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Dywedodd y barnwr HHJ Milwyn Jarman fod rheswm dilys dros gynnal adolygiad barnwrol, a bod disgwyl iddo gael ei gynnal yn y flwyddyn newydd.

Roedd trigolion Talacharn wedi gwrthwynebu’r cynlluniau am nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith fod pwyllgor cynllunio’r cyngor wedi ymateb yn fyrbwyll wrth wrthwynebu cyngor y byddai’r cynlluniau’n niweidio’r amgylchedd lleol.