Mae prif hyfforddwr Cymru wedi cyfaddef ei bod hi’n hen bryd i Gymru “groesi’r llinell” a churo un o gewri hemisffer y de, llai na blwyddyn cyn Cwpan y Byd.

Dyw Cymru heb drechu un o’r tri mawr ers ennill 21-18 yn erbyn Awstralia yn 2008, gan golli cyfres o gemau agos yn erbyn y Wallabies, Seland Newydd a De Affrica ers hynny.

Bydd gwŷr Gatland yn wynebu’r tri thîm, yn ogystal â Ffiji, dros y mis nesaf, gyda’r her gyntaf yn erbyn Awstralia fory yn Stadiwm y Mileniwm.

Ac mae’r hyfforddwr o Seland Newydd yn mynnu y bydd hi’n haws ennill yn eu herbyn unwaith y bydd Cymru wedi croesi’r llinell seicolegol o gipio’r fuddugoliaeth gyntaf yna.

“Rydyn ni’n ymwybodol ein bod ni wedi bod yn cnocio ar y drws ac yn rhoi ein hun mewn sefyllfaoedd – falle nid yn erbyn y Crysau Duon, ond yn sicr yn erbyn De Affrica ac Awstralia – ar nifer o achlysuron i ennill gemau,” meddai Warren Gatland.

“Unwaith rydych chi’n gwneud e am y tro cyntaf, mae’n dod yn haws yr ail a’r trydydd tro. Rydyn ni wedi bod yn cnocio ar y drws, ond mae’n rhaid i ni gael drwyddo fe a chroesi’r llinell, a bachu un o’r buddugoliaethau yna.”

Llygadu Cwpan y Byd

Bydd yr ornest rhwng Cymru ac Awstralia o ddiddordeb yng nghyd-destun ehangach Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf hefyd, gan fod y ddau dîm yn yr un grŵp gyda Lloegr, Ffiji ac Uruguay.

Dywedodd Gatland ei fod yn disgwyl i dîm Awstralia wella hyd yn oed mwy dros y deg mis nesaf o dan eu rheolwr newydd Michael Cheika, cyn-hyfforddwr Leinster.

Ac mae prif hyfforddwr Cymru’n cyfaddef mai’r twrnament yn Lloegr a Chymru’r flwyddyn nesaf sydd yn llywio popeth ar hyn o bryd.

“Rydyn ni wedi rhedeg pethau’n wahanol yn yr ymgyrch yma ac fe fyddwn ni yn y Chwe Gwlad, bron fel carfan Cwpan y Byd o ran paratoi a chynllunio tymor hir,” esboniodd Gatland.

“Mae’n rhywbeth dw i’n meddwl ein bod ni wedi bod yn eithaf dewr a mentrus i wneud. Mae’n rhaid i’n ffocws cyfan ni am y deuddeg mis nesaf fod ar gael allan o’r grŵp yng Nghwpan y Byd. Dyna yw ein prif ffocws.”

Fe gadarnhaodd Gatland hefyd y bydd pob un o chwaraewyr Cymru sydd yn chwarae i glybiau yn Ffrainc ar gael ar gyfer yr ornest yn erbyn De Affrica ar 29 Tachwedd, er nad yw’r gêm yn digwydd yn ystod y ffenestr ryngwladol.

Mae’n golygu y bydd Leigh Halfpenny, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Mike Phillips a Luke Charteris i gyd ar gael ar gyfer yr ornest yn erbyn y Springboks.