Mae’r heddlu wedi penderfynu nad oedd dim amheus am farwolaeth dyn yn Noc Penfro – er eu bod wedi dechrau cynnal ymchwiliad llofruddiaeth i’r achos.

Mae dau ddyn a dynes a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio Roger Williams bellach wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Daethpwyd o hyd i gorff y dyn canol oed mewn tŷ yng Nghwrt Pater yn y dre’ brynhawn ddoe ac roedd yr heddlu wedi gofyn am dystion.

Roedden nhw eisiau gwybod mwy am symudiadau Roger Williams rhwng canol dydd ddyd Gwener a dechrau prynhawn Sadwrn ond maen nhw bellach wedi dod i’r casgliad nad oedd yna ddim amheus ynglŷn â’r farwolaeth.

Fe gafodd y Crwner lleol wybod ac fe fydd trefniadau ar gyfer cwest yn dechrau.