Mae Cymdeithas y Cymod yn cynnal dwy brotest yn erbyn awyrennau di-beilot heddiw – yn Aberporth a Llanbedr ger Harlech.

Mae’r ymgyrchwyr heddwch wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion y bydd yr ‘adar angau’ – neu drones – yn cyrraedd hen faes awyr milwrol Llanbedr y flwyddyn nesa’.

Mae’r Gymdeithas yn dweud bod cwmni awyr Qinetiq a’r maes awyr yn bwriadu arbrofi gyda’r awyrennau gwylio ac ymosod sy’n cael eu gweithredu o bell.

“Defnyddio rhagor o ddaear Cymru i ymarfer lladd” yw hyn, meddai’r Gymdeithas mewn datganiad.

Gosod lluniau

Yn ystod y brotest, fe fydd lluniau o bobol sydd wedi cael eu lladd gan yr awyrennau di-beilot yn cael eu gosod ar ffens y maes awyr.

Mewn datganiad, dywedodd Anna Jane o Gymdeithas y Cymod: “Rydyn ni’n pryderu bod Cymru yn cael ei defnyddio fwy fwy fel maes ymarfer i ladd.

“Gydag Epynt, Y Fali, Aberporth a Llanbedr yn awr, bydd enw Cymru yn cael ei gysylltu efo’r lle y caiff y dechneg o ladd ei hymarfer yn ddwys,” meddai Anna Jane ar ran Cymdeithas y Cymd..

“Gyda phrotest yn digwydd yn Aberporth a Llanbedr, y bwriad yw datgan nad pawb o bobol Cymru sydd yn hapus efo hyn.

“O ddangos wynebau pobol sydd wedi’u lladd, y gobaith yw y bydd hyn yn dangos bygythiad adar angau. Dileu bywyd yw eu bwriad.”

Cefndir

Mae un o awyrennau di-beilot diweddara’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael eu profi yn Aberporth.

Er mai awyrennau casglu gwybodaeth yw Watchkeeper hyd yn hyn, fe fyddai’n bosib eu harfogi a dyw’r Llywodraeth ddim wedi addo na allai hynny ddigwydd yn y dyfodol.

Elfen arall ddadleuol yw mai yn Israel y cafodd Watchkeeper ei datblygu ac mae Israel wedi bod yn arloesi gyda defnyddio’r dechnoleg yn erbyn Palestiniaid.

Cyfarfod cyhoeddus

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn Harlech ddiwedd mis Tachwedd i lansio ymgyrch ffurfiol yn erbyn yr adar angau.

Fe fu protest gynharach yn Llanbedr eleni, pan gafodd sloganau yn erbyn awyrennau di-beilot eu paentio ar y llain hedfan.