Ymladd teirw yn Sbaen
Bydd Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru Jill Evans yn pleidleisio heddiw o blaid rhoi terfyn ar gymorthdaliadau i gefnogi ymladd teirw.

Mae’r cymhorthdal yn rhan o’r gyllideb ar gyfer y byd amaeth yn 2015.

Ar hyn o bryd, mae’r Undeb Ewropeaidd yn cynnig cyllid i ffermwyr sy’n magu teirw ar gyfer gornestau.

Byddai gwelliannau sydd wedi cael eu cynnig i’r gyllideb yn atal yr arfer o fridio teirw at bwrpas ymladd.

‘Arfer creulon’

Mewn datganiad, dywedodd Jill Evans: “Mae’n annerbyniol bod ffermwyr sydd yn magu teirw ar gyfer ymladd yn cael cymorthdaliadau gan yr UE.

“Mae hwn yn arfer creulon a diangen sydd yn achosi llawer o ddioddefaint i anifeiliaid, a hyn oll yn enw chwaraeon ac adloniant honedig.

“Ar adeg pan fod adnoddau’n brin, hoffwn weld ariannu amaethyddol yr UE yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ffermwyr fel y sawl sydd yng Nghymru, sydd â gwir angen yr arian ac sydd yn ei haeddu.”

‘Lles anifeiliaid’

Ychwanegodd Jill Evans: “Rwyf wedi gwneud lles anifeiliaid yn flaenoriaeth uchel a byddaf yn parhau i wneud hynny.

“Cyflwynais ddeiseb i Lywydd newydd Comisiwn Ewrop, Jean-Claude Juncker, yn galw am gomisiynydd gyda chyfrifoldeb clir dros les anifeiliaid.

“Mae ymladd teirw yn amlwg yn mynd yn groes i Gonfensiwn Ewrop dros amddiffyn anifeiliaid sydd yn cael eu ffermio.

“O dderbyn hynny, mae’n hollol anghywir i ddefnyddio arian cyhoeddus i gefnogi ymladd teirw.”