Paul Davies AC
Mae Aelod Cynulliad yn galw ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda i wneud tro pedol ac ail-ystyried y penderfyniad i ddod a gofal plant gyda’r nos yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd i ben.

Yn ôl Paul Davies AC, mae gorfodi plant i deithio tua 30 milltir i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin os ydyn nhw angen gofal brys ynghanol y nos yn mynd i beryglu bywydau pobol.

Dywedodd hefyd ei bod yn “drychinebus” fod gwasanaethau craidd, fel gofal i blant a babanod, yn diflannu o Sir Benfro.

Er bod y bwrdd iechyd yn dweud fod y newidiadau am ddarparu “gwasanaeth o safon uchel”, mae gwrthwynebiad chwyrn yn lleol, gyda dros 1,000 o bobol yn protestio o flaen y Senedd yn y gwanwyn.

“Mae’n etholwyr i yn derbyn bod rhaid teithio ymhellach am wasanaethau arbenigol ond mae’n gorfodi ni i deithio ymhellach am wasanaethau brys a gofal brys yn annerbyniol,” meddai Paul Davies, AC Ceidwadol Preseli a Sir Benfro.

‘Peryglu bywydau’

Mae’r newidiadau, sy’n golygu fod yr uned gofal plant yn Llwynhelyg yn cau am 10:00 y nos, yn dod i rym o heddiw ymlaen.

“Dw i’n credu fod y penderfyniad yma yn drychinebus i ni yn Sir Benfro ac fe ddylai’r Llywodraeth ail-ystyried,” meddai Paul Davies wrth golwg360.

“Dw i’n credu fod y newidiadau am beryglu bywydau pobol a dw i’n credu ei bod hi’n warthus bod gwasanaethau craidd fel hyn yn cael eu hisraddio.

“Ry’n ni wedi gweld yn barod yr uned fabanod yn cau yn Ysbyty Llwynhelyg yn gynharach eleni a dw i’n credu bydd y newidiadau diweddaraf yma yn cael effaith ofnadwy ar wasanaethau eraill yn yr ysbyty.

“Ry’ ni’n clywed dipyn oddi wrth y Llywodraeth a’r bwrdd iechyd lleol bod y newidiadau yn saff ac yn gynaliadwy ond nid yw gorfodi plentyn sâl i deithio o Dyddewi i Gaerfyrddin, er enghraifft, mewn amgylchiadau brys yn saff nac yn gynaliadwy.

‘Darparu gofal diogel o ansawdd uchel’

Dywed Carole Bell, Cyfarwyddwr Clinigol Menywod a Phlant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae ein model gwasanaeth newydd ar gyfer gwasanaethau plant wedi cael ei weithredu heddiw ac mae paratoadau dros y penwythnos wedi mynd yn dda, sy’n ganlyniad uniongyrchol o waith caled ein staff a chydweithrediad teuluoedd a chleifion a dymunwn ddiolch iddynt.

“Hoffwn atgoffa pobl sy’n byw yn Sir Benfro y bydd mwyafrif y gofal a roddir i blant yn parhau i gael ei roi o fewn y gymuned ac yn cael ei ddarparu gan wasanaethau cymunedol a chlinigau cleifion allanol.

“Yn ychwanegol at hyn mae gofal mân anafiadau ar gael yn yr Uned Frys 24 awr y dydd. Mae gan yr Uned Asesu Pediatrig, sydd ar agor rhwng 10yb a 10yb yn ddyddiol, feddygon a nyrsys sy’n darparu ystod o wasanaethau iechyd.

“Gellir trin llawer o blant yn y modd hwn ac ni fydd angen iddynt aros dros nos. Caiff plant y mae angen gofal arnynt dros nos eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili, lle mae uned dibyniaeth uchel bediatrig bwrpasol. Gall rhieni aros gyda’u plant ddydd a nos, fel y maen nhw ar hyn o bryd.

“Bydd ein cerbyd ambiwlans pwrpasol ar gael i drosglwyddo plant a phobl ifanc i Ysbyty Glangwili, ac os fydd y cerbyd eisoes yn cael ei ddefnyddio, gallwn ffonio 999 am ymateb brys os fydd angen.

“Mae’r newidiadau yn cael eu gwneud fel y gallwn barhau i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel sy’n cyrraedd safonau meddygol mae’r GIG yn eu disgwyl, i blant a phobl ifanc ac er mwyn ymateb i heriau parhaol y gweithlu o ran recriwtio, cynnal rota meddygol ac anghenion hyfforddiant clinigol.”