Mae cynllun i uno tair ysgol gynradd a chreu un ysgol fawr ar Ynys Môn wedi cael ei gymeradwyo gan Bwyllgor Craffu Cyngor Ynys Môn.

Fe fydd y cynnig rŵan yn mynd gerbron Pwyllgor Gwaith y cyngor a’r aelodau yn trafod uno Ysgol Llaingoch, Ysgol y Parc ac Ysgol Y Parchedig Thomas Ellis yng Nghaergybi.

O dan y cynlluniau newydd, byddai ysgol gynradd newydd ar gyfer 540 o ddisgyblion o 75 o ddisgyblion meithrin yn cael ei hadeiladu ar safle Cybi.

Gwrthwynebiad

Yn y cyfarfod, bu aelodau o’r Pwyllgor Craffu yn trafod y gwrthwynebiad sydd i’r cynllun.

Mae’n cynnwys pryderon am iechyd a diogelwch – ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol, trafnidiaeth a diogelwch ar y ffyrdd ac argaeledd cludiant i ac o’r ysgol newydd.

Yn ogystal, mae pryder wedi ei ddatgan yn lleol am faint y dosbarthiadau yn yr ysgol newydd a’i lleoliad, gan y byddai’n agos at ysgol uwchradd y dref.

Ond yn ôl y pwyllgor, byddai ysgol o’r newydd ar safle Cybi yn “darparu amgylchedd dysgu uchel ei ansawdd” ac ni fyddai maint dosbarthiadau’n mynd dros 30.

“Byddai’r ysgol newydd yn mynd i’r afael ag ôl-groniad cynnal a chadw uchel a phryderon am amodau a pherfformiad ynni’r tair ysgol bresennol, ac mae’n debygol y bydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg,” meddai’r adroddiad.