Mae Heddlu’r De wedi rhybuddio perchnogion cŵn i’w cadw o dan reolaeth wedi i ddefaid gael eu lladd gan gŵn ar ddau achlysur ym Mro Morgannwg.

Cafodd dafad ei lladd gan gi rhydd yn Y Bont-faen ac un arall yn Aberogwr yr wythnos diwethaf. Yn dilyn y digwyddiad hwnnw, bu’n rhaid i ffarmwr saethu’r ci wedi iddo ddechrau rhedeg ar ôl defaid eraill.

Dywedodd y Swyddog Cefnogol, Alex McKay: “Nid yw rhai cŵn yn ffyrnig o ran eu natur, ond mae’n rhaid i berchnogion ddeall fod greddf y ci yn cymryd drosodd mewn rhai sefyllfaoedd.

“Mae hyn yn gostus i’r ffarmwr ac yn achosi poendod mawr i’r defaid.

“Fe ddylai unrhyw gi fod ar dennyn wrth gerdded mewn caeau neu fe allwch wynebu dirwy a chael eich erlyn.

“Mae gan ffermwyr hawl i saethu cŵn sy’n bygwth eu hanifeiliaid.”