Llun: Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe
Fe fydd gŵyl gwrw Cyrfe Mawr Tyrfe Tawe – ail wynt Gŵyl Tyrfe Tawe – yn cael ei chynnal am yr ail waith y penwythnos hwn.

Bydd yr ŵyl, sy’n cael ei chynnal yn Nhŷ Tawe nos Wener a phrynhawn Sadwrn, yn gyfle i flasu cwrw a seidr lleol – a’r arlwy yn cynnwys cwrw Bragdy’r Pilot o dafarn orau Cymru yn ôl CAMRA, sef y Pilot yn Y Mwmbwls.

Fe fydd y cyrfau lleol eraill yn cynnwys cynnyrch Tomos Watkin, Bragdy Gŵyr a Bragdy Abertawe.

Ymhlith y cyrfau o rannau eraill o Gymru mae cwrw Moose Piws a Chwrw Llŷn o ogledd Cymru.

Am y tro cyntaf eleni, bydd cyfle i’r gynulleidfa fynd â’u hoff gwrw adref gyda nhw mewn bocsys têcawê.

Yn ogystal â’r cwrw, fe fydd cynnyrch creision cwmni Jones o Gymru ar gael i’w brynu drwy gydol y penwythnos.

Adloniant

Gŵyl ddeuddydd fydd hi eto eleni, a’r cyfan yn dechrau gyda sesiwn werin nos Wener.

Bydd y drysau’n agor am 5 o’r gloch a’r arlwy gerddorol yn dechrau gyda set gan brif ganwr Y Bandana a’r Plu, Gwilym Bowen Rhys am 6.30yh, ac fe fydd sesiwn werin draddodiadol dan ei arweiniad yn dilyn am 8.30yh.

Fe fu’r canwr yn brysur yn ddiweddar wrth gyfrannu at brosiect 10 Mewn Bws a thaith TRAC o amgylch Cymru.

Ddydd Sadwrn, fe fydd y drysau’n ail-agor am 12 o’r gloch am ddiwrnod o gomedi a cherddoriaeth dan arweiniad Steffan Alun.

Bydd y comedïwr lleol sy’n cael ei ddisgrifio gan y trefnwyr fel “comedïwr cellweirus, difyr, ffraeth, rhyfedd, coeglyd, ysmala, digrif a doniol” yn cyflwyno’r adloniant sy’n dechrau am 3.15yp.

Bydd Lowri Evans, Caryl Parry Jones a Huw Chiswell yn perfformio setiau yn ystod y dydd.

Mae’r trefnwyr yn arbennig o falch o gael croesawu ‘Chis’ i’r ŵyl unwaith eto, gan y bu’n allweddol wrth berfformio mewn gig codi arian pan gafodd Tyrfe Tawe ei sefydlu yn 2004.

Yn ychwanegiad at y digwyddiad eleni, fe fydd arddangosfa o waith celf yr artist lleol Rhys Padarn Jones o Orielodl ar furiau Tŷ Tawe drwy gydol y penwythnos.

Rhagor o wybodaeth ar wefan www.tyrfe.com neu ar y dudalen Twitter, @Cyrfe.