Catherine Zeta Jones
Fe fydd Catherine Zeta Jones yn ymddangos mewn ffilm sy’n atgyfodi cymeriadau poblogaidd y gyfres gomedi glasurol, Dad’s Army.

Mae hi’n un o lu o sêr fydd yn ymddangos yn y cynhyrchiad sydd wedi cael ei gyfarwyddo gan Oliver Parker.

Bydd yr actores o Abertawe yn chwarae rhan newyddiadurwraig sydd wedi cael ei hanfon i dref Walmington-on-Sea wrth i’r Gwarchodlu Cartref chwilio am ysbïwr.

Ymhlith yr actorion adnabyddus eraill fydd yn ymddangos yn y ffilm mae Tom Courtenay fel Corporal Jones, Bill Nighy fel Sargeant Wilson a Michael Gambon fel Godfrey.

Toby Jones fydd yn chwarae rhan Captain Mainwaring.

Bydd Blake Harrison (Inbetweeners) yn chwarae rhan y cymeriad ifanc Private Pike, a Danny Mays yn chwarae’r cymeriad direidus Walker.

Bydd Sarah Lancashire, Alison Steadman, Mark Gatiss ac Annette Crosbie hefyd yn ymddangos yn y ffilm, fydd yn cael ei ffilmio’r mis hwn yn Swydd Efrog.