Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd
Mae Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd wedi cael ei enwebu ar restr fer fel un o’r lleoliadau bach gorau yn y DU ar gyfer gigs.

Mae’r gystadleuaeth i ddod o hyd i’r lleoliad bach gorau yn cael ei rhedeg gan y cylchgrawn cerddoriaeth NME.
Clwb Ifor Bach yw’r unig leoliad yng Nghymru ar y rhestr.

Mae lleoliadau eraill ar y rhestr fer yn cynnwys Canolfan Celfyddydau Norwich yn East Anglia, Sebright Arms yn Llundain, The Sugarmill yng nghanolbarth Lloegr, Think Tank yng ngogledd ddwyrain Lloegr, Hebden Bridge Trades Club yng ngogledd orllewin Lloegr, Limelight yng Ngogledd Iwerddon, Pj Molloys yn yr Alban, Ramsgate Music Hall yn ne ddwyrain Lloegr, y Thekla yn ne orllewin Lloegr a Holmfirth Picture Drome yn Swydd Efrog.

Meddai Guto Brychan, un o hyrwyddwyr Clwb Ifor Bach: “Mae’r gystadleuaeth yma wedi bod yn rhedeg ers cwpl o flynyddoedd bellach, ac fe gafon ni enwebiad ddwy flynedd yn ôl hefyd.

“Mae gan Clwb Ifor Bach enw fel lle am gerddoriaeth byw ac mae hynny’n rhywbeth ry’n ni wedi bod yn gweithio arno ers ‘chydig flynyddoedd.

“Mae cael ein henwebu am hynny’n gydnabyddiaeth dda o’r gwaith ry’n ni wedi ei wneud a gobeithio gallwn ni fynd un cam ymhellach y tro yma.”
hoff leoliad bach ar gyfer gigs yma: