Mr a Mrs Levitas
Mae’r gantores glasurol o Gastell Nedd, Katherine Jenkins, wedi diolch i’w ffans a’i chefnogwyr am yr holl ddymuniadau da, wedi seremoni ei phriodas yn Llundain ddoe.

Fe briododd ei chariad, yr artist a’r cyfarwyddwr ffilm o America, Andrew Levitas, ym mhalas Hampton Court – gyda baner y ddraig goch yn chwifio’n amlwg uwchben yr adeilad (trwy ganiatâd arbennig) a chig oen o Wynedd ar fwydlen y brecwast priodas.

“Diolch i bob un ohonoch chi am eich cariad ac am eich cefnogaeth,” meddai Katherine Jenkins yn ei datganiad.

“Roedd yn ddiwrnod arbennig, ac ro’n i’n falch iawn o gael rhannu fy llawenydd gyda chi xx.”