Fe fydd plaid Ukip yn sefydlu cangen newydd yng nghymoedd de Cymru y mis nesa’, meddai un o’i haelodau yn Senedd Ewrop wrth raglen deledu BBC Cymru.

Roedd Nathan Gill yn siarad o gynhadledd ei blaid yn Doncaster, ac yn pwysleisio llwyddiant Ukip yn siroedd Conwy, Fflint, Dinbych, Wrecsam, Bro Morgannwg a Phowys yn etholiadau Ewrop.

Ar sail y llwyddiant hwn, fe fydd Ukip yn sefydlu cangen newydd yng nghadarnle’r blaid Lafur, meddai – a hynny yn y Rhondda. Roedd ei blaid wedi dod yn ail ym Merthyr Tudful hefyd.

“Am yn llawer rhy hir, mae’r blaid LAfur wedi cymryd Cymru a’i phobol yn ganiataol,” meddai Nathan Gill.

“Mae llefydd fel Merthyr Tudful, o’r diwedd, wedi deffro i’r ffaith fod 114 mlynedd, chwech o brif weinidogion Llafur, a phymtheg mlynedd o lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd, nad ydi Llafur bellach yn cynrychioli’r dyn cyffredin.”