Byrgyrs cig oen o Eryri fydd ar y fwydlen ym mhriodas Katherine Jenkins yfory.

Fe fydd y gantores glasurol a’i dyweddi Andrew Levitas yn priodi ym Mhalas Hampton Court yn Llundain, ac maen nhw wedi gwneud yn siŵr mai cynnyrch Cymreig fydd yn cael ei weini i’w gwesteion.

Credir y bydd bara brith, caws Cymreig a chig eidion Cymreig hefyd ar y fwydlen – ac i goroni’r cyfan fe fydd baner Cymru i’w gweld y tu allan i’r palas.

Cyhoeddodd y mezzo-soprano o Gastell-nedd a’i darpar ŵr, sy’n dod o Efrog Newydd, eu dyweddïad  bum mis yn ôl, wedi iddyn nhw fod yn canlyn am lai na blwyddyn.

Sylw yn America

Dywedodd Wil Owen o gigydd OG Owen a’i Fab yng Nghaernarfon wrth golwg360 nad oedd o wedi cymryd llawer o ddiddordeb yn y briodas, tan heddiw:

“Wnes i ddim meddwl llawer am y peth tan heddiw i ddweud y gwir, ond mae yna lwyth o bobol wedi bod i mewn i’r siop ar ôl clywed. Ac mi ges i alwad ffôn o America gan rywun oedd eisiau fy holi.”

Yn son am sut y daeth i ddarparu cig ar gyfer diwrnod mawr Katherine Jenkins, eglurodd y bwtsiar:

“Fe ddaeth un o drefnwyr y briodas yma ryw chwe wythnos yn ôl a gofyn am samplau o’r byrgyrs, ac mi glywes i ryw dair wythnos yn ôl eu bod nhw eisiau nhw gyno ni.

“Mae’r byrgyrs wedi mynd draw i Lundain ers ddoe. Fe aeth yna lot….dw i ddim yn cael dweud mwy na hynny…cig oen o Eryri ydy o – y gorau yn y byd.

“Mae yna flas arbennig iddo am ei fod o wedi cael ei fagu ar dir lle does dim llwch na gwrtaith o gwbl….efallai mai gweithio i hybu cig Cymru ddyliwn i fod yn hytrach nag i OG Owen!”

Stori: Gwenllian Elias