Julie James
Mae mwy na 12,000 o bobol ifanc wedi dod o hyd i waith trwy gymryd rhan yng nghynllun Twf Swyddi Cymru, yn ôl ffigurau diweddara’ Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, bod y ffigyrau yn “galonogol iawn” a bod y cynllun wedi gwneud i gyflogwyr sylweddoli sut y gallan nhw fod ar eu hennill drwy roi cyfleoedd i weithwyr ifanc.

Mae’r ffigurau’n dangos bod 15,625 o gyfleoedd swyddi wedi’u creu a 12,298 o swyddi gwag wedi’u llenwi ers i Twf Swyddi Cymru lansio ym mis Ebril 2012.

Cefndir

Rhaglen sy’n rhoi cyfle i bobol ifanc ddi-waith rhwng 16 a 24 oed gael swydd am chwe mis yw Twf Swyddi Cymru.

Mae’n helpu cyflogwyr i dalu cyflog y person ifanc, gyda’r gobaith wedyn y byddan nhw’n cael swyddi parhaol ar ddiwedd y chwech mis.

Y sector preifat sydd wedi manteisio ar y rhan fwya’ o’r cyfleoedd gan Twf Swyddi Cymru (78%), yn ôl ffigurau’r Llywodraeth.

Mae 835 o’r bobol sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen wedi cael swyddi parhaol, neu symud ymlaen i brentisiaeth neu i ddysgu pellach.

‘Nid cyd-ddigwyddiad’

“Nid cyd-ddigwyddiad yw’r gostyngiad rydyn ni wedi’i weld mewn diweithdra ymhlith pobol ifanc yng Nghymru,” meddai’r Dirprwy Weinidog, Julie James.

“Mae’n glir bod rhaglen Twf Swyddi Cymru yn chwarae’i rhan wrth roi help llaw i’n pobol ifanc ddod o hyd i waith ystyrlon ac i gael eu talu am y gwaith hwnnw.”