Hen goleg Prifysgol Aberystwyth
Mae undeb Unsain ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydnabod y bydd streic sy’n dechrau fory yn amharu ar y croeso i fyfyrwyr ar ddechrau’r tymor academaidd newydd.

Ond mae swyddogion yr undeb yn dweud nad oes ganddyn nhw ddewis ar ôl methu â newid barn penderfyniad awdurdodau’r brifysgol i newid amodau pensiwn gweithwyr y brifysgol.

Bydd y streic yn para am bedwar diwrnod, gan gynnwys y penwythnos, pan fydd y myfyrwyr newydd yn arbennig yn disgwyl symud i mewn i’w neuaddau preswyl.

Mae’r streic gan Unison yn dilyn anghydfod hir rhwng yr undeb a’r brifysgol dros daliadau a gwerth pensiynau staff gweinyddol a phorthorion – y gweithwyr, meddai’r undeb sydd ar y cyflogau isa’.

Colli’r hanner

Dywedodd Simon Dunn, trefnydd rhanbarthol Unison, bod peryg y byddai gweithwyr yn colli hanner cant y cant o werth eu pensiynnau o dan doriadau’r brifysgol a fyddai’n eu gadael yn dlawd ar ôl ymddeol.

“R’yn ni’n fodlon iawn trafod cyfaddawd dros y gweithredu gyda’r brifysgol ond hyd yn hyn dydyn nhw ddim wedi newid eu safbwynt er i ni anfon llythyr agored i’r awdurdodau,” meddai. “ Ar hyn o bryd, does gennym ni ddim dewis.”

Bydd gorymdaith a rali ddydd Sadwrn 20 Medi yn rhan o’r gweithredu. Bydd y protestwyr pensiynau teg yn ymgynnull am 10.30yb y tu allan i orsfaf drenau Aberystwyth ac yna’n gorymdeithio i fyny Penglais.

Dyw’r streic ddim yn effeithio ar staff academaidd ac uwch weinyddwyr.

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Brifysgol.