Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau ar gynghorau i gydweithio er mwyn gwneud yn siŵr bod pobol o bob oed a chefndir yn medru cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff.

Fe fydd un o’u gweinidogion hefyd y dweud bod angen dod â gwasanaethau hamdden, ysgolion a chymuned at ei gilydd er mwyn eu hachub.

Fe fydd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog ar Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wneud y cyhoeddiad mewn cynhadledd yn Llangollen heddiw, gan alw ar gynghorau i fabwysiadu a meddwl am ffyrdd newydd o ddarparu gweithgareddau hamdden a chwaraeon.

Mae hynny’n cynnwys cydweithio a “dulliau gwahanol o ddarparu”.

Pwysau ariannol

“Mae ymarfer corff yn hanfodol bwysig i iechyd a lles bobol Cymru ac mae’n rhaid parhau i annog gymaint o bobol ac sy’n bosib i wneud  ymarfer corff yn rhan naturiol o’u bywydau,” meddai Ken Skates cyn y gynnhadledd o gynrychiolwyr llywodraeth leol, cyrff chwaraeon, busnesau a mudiadau.

“Ond mae’n rhaid i ni fod yn ofalus o’r pwysau ariannol sydd ar awdurdodau lleol, ac mae’n rhaid dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau.”

“Hefyd, mae’n rhaid meddwl mwy am ddefnyddio’r cyfleusterau sydd gennym yn ein hamgylchedd naturiol i greu cyfleoedd i wneud ymarfer corff.”

Cefndir

Mae cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, cyrff chwaraeon a sefydliadau preifat a’r trydydd sector yn yn y gynhadledd er mwyn trafod syniadau a rhannu arferion da yn wyneb cyni ariannol.