Meic Stevens yn perfformio yn yr wyl
Mae trefnwyr Gŵyl Golwg yn ystyried a ddylai’r digwyddiad gael ei gynnal yn flynyddol, gan ddweud ei bod yn “ŵyl ddiwylliant o bwys” yng Nghymru.

Daeth mwy na 1,000 o bobol i’r digwyddiadau yn ystod dwy noson a diwrnod o weithgareddau yn Llanbedr Pont Steffan.

Daeth llwyddiant yr ŵyl yn amlwg trwy gyfrwng Twitter, wrth i drafodaethau am y digwyddiad gyrraedd y 10 Uchaf o ran negeseuon Cymraeg ar y wefan am o leiaf ddau ddiwrnod.

  • Roedd negeseuon trydar o’r ŵyl ac am yr ŵyl yn 10 Ucha’ negeseuon Cymraeg am o leia’ ddau ddiwrnod.
  • Roedd negeseuon trydar am yr ŵyl wedi cyrraedd tua 45,000 o gyfrifon trwy hashnod a 40,000 arall trwy @.

Yn ystod yr ŵyl, fe gafwyd cyngerdd cyntaf Meic Stevens yn y dref ers dros 30 o flynyddoedd, ac fe gafodd ei gefnogi gan Plu a’r gantores leol 14 oed, Mari Mathias.

Bethan Gwanas

Ymhlith y prif siaradwyr yn y sesiynau sgwrsio oedd Bethan Gwanas, oedd wedi traddodi Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis, gan alw am ragor o wariant ar fersiynau o lyfrau plant mewn tafodieithoedd amrywiol, yn hytrach na chyfieithu o’r Saesneg.

Yn ystod sesiwn gydag enillydd Llyfr y Flwyddyn, Ioan Kidd, dywedodd yr awdur ei fod wedi ystyried rhoi’r gorau i ysgrifennu oherwydd diffyg sylw i’w lyfrau.

Wrth drafod cyfrol am y diweddar Iwan Llwyd, soniodd Karen Owen am ei phennod a gafodd ei gwrthod am ei bod yn datgelu gormod o fanylion preifat am y bardd, gan gynnwys ei frwydr yn erbyn alcoholiaeth, ei obsesiynau a’i ofnau.

Hefyd yn ystod yr ŵyl, roedd trafodaeth am gynllun trydar cymunedol Clonc360, a fydd yn creu gofod ar y we i sefydlu gwefannau bro, ac fe gafodd pencampwriaeth Mario Kart gyntaf Cymru ei chynnal.

Enillydd cystadleuaeth Llun y Flwyddyn oedd Iestyn Hughes, am ei lun ‘Coedwig Cantre’r Gwaelod’.

‘Amrywiol’

Dywedodd prif weithredwr Golwg360, Owain Schiavone: “Mae amrywiaeth yr uchafbwyntiau’n dangos pa mor amrywiol ydi Gŵyl Golwg – yn ôl y bobol sy’n dod, mae’n cynnig cynnwys ac awyrgylch unigryw.

“Mae’r cynnydd wedi bod yn rhyfeddol. Y llynedd, roedden ni wedi gwahodd llawer o bobol i ddod i barti dathlu Golwg yn 25 oed; eleni, mi ddaeth 1,000 o bobol a phlant draw ar ôl clywed am ei llwyddiant.”