Ioan Kidd yn cael ei wobrwyo fel awdur Llyfr y Flwyddyn eleni
Mae Ioan Kidd, awdur Llyfr y Flwyddyn 2014, wedi dweud ei fod wedi ystyried rhoi’r gorau i’w yrfa fel awdur ar un adeg am nad yw llyfrau Cymraeg yn cael eu marchnata ddigon.

Mewn sgwrs yng Ngŵyl Golwg yn Llanbedr Pont Steffan, dywedodd bod ei nofel ddiwethaf ‘Un o Ble Wyt ti?’ wedi cael ei “hanwybyddu”  ar ôl cael ei chyhoeddi yn 2011 a bod hynny’n “dorcalonnus”.

Mae Ioan Kidd wedi bod yn sgrifennu ers deugain mlynedd, ond dywedodd wrth sgwrsio â Sian Sutton, ei fod wedi ystyried ei hun fel un o awduron anweledig Cymru – nes ennill hatric Llyfr y Flwyddyn gyda’i nofel ‘Dewis’ eleni.

“Mae ugeiniau ohonom yn sgrifennu o flwyddyn i flwyddyn ond dyw’r llyfrau ddim yn ymddangos ar y ‘radar’.

“Roeddwn i bron â rhoi’r gorau iddi. Chafodd ‘Un o Ble Wyt ti’ ddim un adolygiad. Does dim byd mwy torcalonnus na bod eich gwaith chi’n cael ei anwybyddu.

“Ro’n i wedi mwy ne lai dweud wrth yn hunain, dyna ni. Ond y munud olaf, ymddangosodd adolygiad gwych i ‘Un o Ble Wyt Ti’?”

“Ac oni bai am yr adolygiad hwnnw, fyddai Dewis ddim wedi gweld golau dydd.”

Marchnata

Aeth ymlaen i ddweud bod angen sicrhau bod adolygiadau cyson o lyfrau newydd Cymreig, ac nad dim ond yr awduron enwocaf sy’n cael y sylw:

“Rwy’n teimlo bod lle i wella marchnata yng Nghymru … gallen i fod wedi hyrwyddo’n hun yn fwy ond dyw hi ddim yn dod yn ail natur i mi wneud hynny.”

“Mae lle i sefydliadau wneud yn siŵr bod adolygiadau yn ymddangos mewn cylchgronau ac ar y we.”