Mae’r heddlu ym Mhontypridd yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn 35 oed mewn coedwig yn Llantrisant.

Mae’r dyn yn dioddef o anafiadau difrifol i’w ben ac wedi torri sawl asgwrn yn dilyn y digwyddiad yng nghoedwig Smilog ar nos Sul, 31 Awst.

Credir fod dau ddyn wedi ymosod arno gyda chyllell ac wedi dwyn ei ffôn lôn.

Yn ôl yr heddlu, fe lwyddodd y dyn i lusgo ei hun i’r ffordd agosaf, lle’r oedd gyrrwr car wedi stopio a’i gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Mae o bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu trwy ffonio 101.