David Cameron a Barack Obama yn ymweld ag Ysgol Mount Pleasant
Ein gohebydd gwleidyddol, Gareth Pennant, sy’n dilyn y digwyddiadau yng Nghasnewydd ar ran Golwg360…

18.00 – Poroshenko yntau wedi awgrymu y gallai cytundeb heddwch gael ei lofnodi yfory.

17.55 – Rhagor am y sancsiynau, wrth i David Cameron, Barack Obama ac arweinwyr eraill gynnal trafodaethau gydag Arlywydd yr Iwcrain, Petro Poroshenko yng Nghasnewydd.

Mae disgwyl i’r sancsiynau dargedu cwmnïau amddiffyn ac ynni, banciau wedi’u rheoli gan y llywodraeth, a gwerthu arfau, ac fe fydd yr Unol Daleithiau’n cyhoeddi sancsiynau tebyg maes o law.

Y gobaith yw sicrhau cyfaddawd gydag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin a’i annog i roi’r gorau i ymladd.

Dywedodd David Cameron heddiw fod y sefyllfa’n niweidio economi Rwsia, ac mae Nick Clegg hefyd wedi cefnogi’r camau sy’n cael eu cyflwyno.

17.28 – Mae ffynhonnell yn Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau y bydd pecyn newydd o sancsiynau yn erbyn Rwsia yn cael ei gyhoeddi yfory.

16.36 – Dyma’r drefn am weddill y dydd:

4.30pm Cyfarfod rhwng gweinidogion Amddiffyn Nato gyda chynghreiriaid o 24 o wledydd gwahanol.

4.45pm Cyfarfod Nato-Wcráin rhwng penaethiaid y gwladwriaethau a llywodraethau

6.45pm Cynhadledd i’r wasg a fydd yn cynnwys Ysgrifennydd Cyffredinol Nato ag Arlywydd yr Wcráin

7.05pm Fe fydd derbynfa yn cael ei gynnal gan Dywysog Cymru yn y Celtic Manor

8pm Cinio rhwng gweinidogion Tramor Nato yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama. Fe fydd cinio rhwng gweinidogion Amddiffyn Nato yn cael ei gynnal ar y llong HMS Duncan ym Mae Caerdydd.

8.30pm Cinio penaethiaid y gwladwriaethau a llywodraethau yng Nghastell Caerdydd.



16.24 – Disgwyl i Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Anders Fogh Rasmussen, gynnal cynhadledd i’r wasg o fewn y munudau nesaf.

16.10 – Yn ôl Manon Williams, Prif Weithredwr Croeso Cymru, nid pwrpas cynhadledd fel Nato yw creu buddion economaidd uniongyrchol i Gymru, ond “wedi dweud hynny ry’n ni’n meddwl bod yna fudd economaidd anuniongyrchol enfawr yn botensial i Gymru ac mae hwnna ar gyfer buddsoddiad mewnol yn ogystal â thwristiaeth”.

16.12 Mae gwledd yn disgwyl arweinwyr y byd heno. Byddan nhw’n ymgynnull yng Nghastell Caerdydd i fwyta pryd wedi’i baratoi gan Stephen Terry, cogydd yr Hardwick yn Y Fenni. Cafodd ei hyfforddi gan neb llai na Marco Pierre White. Bydd Terry yn cael cymorth myfyrwyr o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i baratoi’r bwyd. Ond mae’r fwydlen yn gyfrinach o hyd….

14.28 – Mae rhai newyddiadurwyr yn cwyno am y diffyg dewis o fwyd yma yn y gynhadledd. “Does yna bron ddim dewis i lysieuwr fel fi,” meddai Nina Kojima o RTV Slovenia, darlledwr cenedlaethol y wlad.

Dydi hi chwaith ddim yn meddwl y bydd y gynhadledd yn hwb i economi Cymru. “Fe wnaeth Slovenia gynnal yr uwchgynhadledd gyntaf rhwng Arlywydd Bush ac Arlywydd Putin yn 2001 ac ni chafodd hwnnw unrhyw effaith tymor hir o fudd i’r ardal,” ychwanegodd.



13.47 – Yr arweinwyr wedi cychwyn ar eu sesiwn gaeedig gyntaf ac mae’r llif byw wedi cael ei droi ffwrdd.

13.46 – Mae David Cameron wedi gwneud ei ddatganiad agoriadol yn y gynhadledd. Dywedodd bod lluniau o Fannau Brycheiniog i’w gweld o gwmpas y lle gan mai dyna le mae byddin Prydain yn ymarfer. Aeth ymlaen i ddweud bod Cymru’n “le addas” ar gyfer cynhadledd o’r fath gan fod ganddi 640 o gestyll. Ei obaith, meddai, yw y caiff rhai o’r cynadleddwyr y cyfle i ymweld â rhai ohonyn nhw.

13.26 – David Cameron ac arweinwyr eraill wedi cyfarfod ag Arlywydd yr Wcráin, Petro Poroshenko, y bore ma. Roedd y trafodaethau i fod i bara hanner awr ond mi aethon nhw ymlaen am fwy nag awr.

13.15 -Y seremoni newydd gychwyn i gyfeiliant Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech

13.15 – Newydd gael sgwrs efo Azmarov Petko, newyddiadurwr o Fwlgaria. Dweud nad oes llawer o bobol yn gwybod am Gymru yno. Ond mae’n dweud bod cynnal Nato yng Nghasnewydd yn “sicr” o godi proffil Cymru yn y wlad.

12.40 – Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Anders Fogh Rasmussen, a Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi bod yn ysgwyd llaw ac yn annerch arweinwyr Nato ers dros hanner awr. Y sesiwn gyntaf, trafodaeth ar Afghanistan, yn cychwyn am 1yh. Disgwyl iddyn nhw ddweud faint o filwyr fydd yn aros yn y wlad ar ôl 2014.

12.32 – Mae protestwyr wedi bod yn ymgasglu ger y Senotaff yng Nghasnewydd, yn barod i orymdeithio i westy’r Celtic Manor. Maen nhw’n gobeithio cyflwyno cerdiau post maen nhw wedi’u casglu tra’n cerdded trwy Gymru. Does dim sicrwydd eto a fydd unrhyw un yno i’w cyfarch neu i dderbyn y cerdiau post – os byddan nhw’n llwyddo i gyrraedd y Celtic Manor, wrth gwrs!

12.07 – Mae’r trefniadau diogelwch yn llym iawn, yn ol y disgwyl. Mae bysus gwennol yn mynd a chynadleddwyr a swyddogion y wasg o safleoedd penodol yng Nghasnewydd a Chaerdydd i’r safle. Ond yn gyntaf, mi oedd yn rhaid mynd drwy safle diogelwch ychwanegol mewn gwesty yng Nghasnewydd.

Penderfynodd un o’r swyddogion diogelwch nad oedd angen archwilio fy mrechdanau i!

Yn dilyn hynny, roedd bws arall yn mynd a newyddiadurwyr i’r safle, wrth siop y clwb golff, sydd tua hanner milltir i ffwrdd o’r Celtic Manor. Fe ddaeth heddwas ar y bws cyn i ni gyrraedd gan ofyn i weld ein cardiau adnabod unwaith yn rhagor.

11.47 – Bu un o newyddiadurwyr amlycaf papur newydd y Daily Mail yn siarad braidd yn rhy uchel ar y ffordd yma.

“Dyma’r tro cyntaf i Arlywydd presennol o America ymweld â Chymru ac a ydych chi’n rhyfeddu nad ydyn nhw wedi bod yma o’r blaen?,” gofynnodd.

11. 45 – Mae canolfan y wasg i’r 1,500 o newyddiadurwyr o bedwar ban byd wedi ei wneud o ddur ac mae dau lawr iddo sy’n llawn desgiau, cyfrifiaduron – a pheiriannau coffi. Mae’r coffi am ddim ond nid yw’r bwyd – £8 yw’r gost am frechdan i ni’r hacs.

Mae newyddiadurwyr yma o’r Almaen i Azerbaijan gyda chyhoeddiadau yn cael eu gwneud mewn sawl iaith dros yr uwch-seinydd.

Mae ’na reolau caeth ond nid pob un sydd wedi cadw atyn nhw. Fe gafodd un bryd o dafod yn gynharach.

Wrth aros am y bws i’r ganolfan fe dynnodd lun o’r newyddiadurwyr mewn ciw. Daeth swyddog diogelwch ato ar wib gan wneud yn siŵr ei fod yn dileu’r llun o flaen pawb.

11.29 – Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi bod yn croesawu cynrychiolwyr yr uwchgynhadledd wrth fynedfa’r gwesty ers bron i dair awr.

11.15 – O edrych ar gyfrif trydar David Cameron mae’n falch o fod yng nghwmni Barack Obama.

Mae ei dri trydariad olaf wedi cychwyn efo “Mae’r Arlywydd Obama a finnau…..”

11.09 – Mae Carwyn Jones wedi croesawu Barack Obama i Gymru.
Fe gyfarfu’r ddau wrth i Brif Weinidog Cymru groesawu cynrychiolwyr i’r uwchgynhadledd.
“Mae ymweliad Arlywydd UDA â Chymru ar gyfer uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd yn achlysur hanesyddol,” meddai Carwyn Jones, “gan mai dyma’r tro cyntaf i un o Arlywyddion presennol UDA ddod ar ymweliad swyddogol â Chymru.”



11.04 – Mae plant yn Ysgol Gynradd Mount Pleasant yn ardal Tŷ-du yng Nghasnewydd wedi cael gwers na fyddan nhw’n ei anghofio’r bore ma wrth i Barack Obama a David Cameron ymweld â’r ysgol.
Fe wnaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau a Phrif Weinidog Prydain annerch y disgyblion yn Gymraeg drwy ddweud ‘bore da’.
Fe gafodd yr Arlywydd Obama neges gan y disgyblion yn ei ddiolch am fod yr Arlywydd cyntaf yn y Tŷ Gwyn i ymweld â Chymru.

10.33 – Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Anders Fogh Rasmussen wedi dweud bod Nato yn cwrdd mewn “cyfnod o sawl her” wrth i’r argyfwng barhau yn yr Wcrain, a’r bygythiad diweddaraf gan eithafwyr Islamaidd.

Am 1pm bydd sesiwn ar Afghanistan lle mae disgwyl trafodaeth ynghylch nifer y milwyr a fydd yn aros yn y wlad ar ôl 2014.

Am 4.45 bydd sesiwn ar y Wcráin. Fe fydd arweinwyr Nato yn cynnal cyfarfod gyda’r Arlywydd Petro Poroshenko o’r Wcráin, gan ddangos anfodlonrwydd gyda gweithredoedd Arlywydd Putin o Rwsia yn y wlad.

Yn dilyn y cyfarfodydd hynny bydd cinio preifat i’r arweinwyr yng Nghastell Caerdydd a fydd yn cael ei gynnal gan David Cameron. Mae disgwyl iddyn nhw drafod sut i ymateb i fygythiad gan eithafwyr Islamaidd.

10.30 – Mae’r arweinwyr eisoes wedi cyrraedd ac fe fydd y gynhadledd yn cychwyn yn swyddogol am 11.45am wrth i Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Anders Fogh Rasmussen, a Prif Weinidog Prydain, David Cameron, groesawu’r penaethiaid y gwladwriaethau a’r Llywodraethau.