Bydd cystadleuaeth Mario Kart cenedlaethol cyntaf Cymru’n cael ei chynnal yn rhan o weithgareddau digidol Gŵyl Golwg yn Llanbedr Pont Steffan, ddydd Sul 14 Medi.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan griw Fideo Wyth, sef cymuned sy’n trafod gemau cyfrifiadurol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y gystadleuaeth yn rhan o adran ‘Y Fro Ddigidol’ yng Ngŵyl Golwg – ardal sy’n cynnwys amrywiaeth o weithdai a sesiynau 1 ac 1 – a bydd cyfle i frwydro am y teitl o ‘Bencampwr Mario Kart Cymru’ rhwng 1 a 5 y prynhawn.

Trac sain plentyndod

Mae sylfaenydd Fideo Wyth, y blogiwr gemau cyfrifiadurol Daf Prys, yn gobeithio y bydd y gystadleuaeth Mario Kart yn rhoi hwb i Gymry Cymraeg drin a thrafod y byd gemau cyfrifiadurol.

“I lawer, Mario Kart oedd trac sain eu plentyndod, a gyda dyfodiad Mario Kart 8 ar y Nintendo WiiU roedden ni’n credu ei fod yn briodol i ni gynnal cystadleuaeth fel rhan o Ŵyl Golwg” meddai Daf Prys.

“Mae gyda ni wobrau cyffrous i’r enillwyr ar ddiwedd y dydd, ond y bri a’r cyfle i frolio eu gallu ar y cyfryngau cymdeithasol fydd y prif wobr i’r enillwyr heb os.”

“Nod Fideo Wyth ydy rhoi llwyfan i drafodaeth ynglŷn â gemau cyfrifiadurol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y twrnament Mario Kart yn rhoi hwb i hynny, a bydd modd i bobl drafod a checru ar y dydd trwy ddefnyddio’r hashnod #mkfideo8 ar Twitter.”

Yn ôl un o drefnwyr Gŵyl Golwg, Owain Schiavone, mae syniad y gystadleuaeth yn cyd-fynd ag egwyddorion agweddau digidol yr Ŵyl.

“Nod y sesiynau digidol ydy annog ac ysbrydoli pobl i fynd ati a defnyddio’r cyfryngau digidol trwy gyfrwng y Gymraeg.”

“Mae angen i’r iaith fod yn amlwg ar bob llwyfan, a dim ond trwy greu digon o gynnwys amrywiol mae modd sicrhau hynny. Gobeithio bydd y gystadleuaeth yn dod â phobl o’r un anian ynghyd ac y byddan nhw’n dod yn rhan o gymuned Fideo Wyth.”

“Rydan ni wedi ymchwilio cymaint â phosib, a hyd y gwelwn ni, hon fydd y gystadleuaeth genedlaethol Gymreig gyntaf o’i math ac mae hynny’n wych i’r ŵyl.”

Sesiynau Digidol

Yn ogystal â sgyrsiau llenyddol a cherddoriaeth fyw trwy’r dydd, mae trafodaethau digidol yn rhan bwysig o benwythnos Gŵyl Golwg.

Yn adran Y Cwmwl o’r ŵyl mae amrywiaeth helaeth o sesiynau yn ymwneud â chreu cynnwys digidol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyma’r drefn:

12.00 – Mae Fideo Wyth yn agor yr arlwy ddigidol gyda thrafodaeth am gemau cyfrifiadurol Cymraeg am hanner dydd.

13.00 – Bydd sesiwn yn trafod y berthynas rhwng cyhoeddiadau print a digidol yn dilyn hynny wedi cwynion diweddar nad yw cyhoeddiadau print Cymraeg yn gwneud digon yn ddigidol.

14.00 – Bydd yr ystafell ddigidol yn rhoi cyfle i bobl ddysgu sut i greu ap yn sgwrs ‘Crap ar greu ap’ gan Eilian Roderick o CEMAS.

15.00 – Bydd Radio Beca a Cymru FM yn trafod sut i fynd ati i greu podlediadau Cymraeg.

16.00 – Wrth i fanciau fynd yn fwyfwy cyndyn i fenthyg arian, bydd Rhodri ap Dyfrig yn trafod egwyddorion ariannu torfol (crowd funding) a’i brosiect Heliwm.com.

17.00 – Yn y sesiwn digidol olaf bydd y ffotograffwyr amlwg, Keith Morris ac Emyr Young, yn sgwrsio gyda FfotoAber ynglŷn â sut mae ffotograffwyr proffesiynol yn goroesi yn yr oes ddigidol pan mae gan bawb gamera safonol ar eu ffôn symudol.

Mae gwybodaeth lawn am arlwy digidol Gŵyl Golwg, ac adrannau eraill yr ŵyl ar y wefan www.gwylgolwg.com