Defaid fu'n rhan o ymchwil Prifysgol Abertawe (Llun: A.J.Morton
Fe allai ymchwil newydd i fugeilio arwain at ‘gŵn defaid’ robotig yn y dyfodol, yn ôl gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe.

Fe ddarganfyddodd ymchwil gan Dr Andrew King o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe fod cŵn defaid yn defnyddio dwy reol syml i gasglu nifer fawr o ddefaid at ei gilydd.

Llwyddodd y tîm i ddarganfod bod y cŵn defaid yn debygol o ddefnyddio dwy reol syml – un i gasglu’r defaid pan maen nhw wedi gwasgaru, a’r llall i’w gyrru ymlaen pan maen nhw wedi casglu at ei gilydd.

Ar sail y model hwn gallai un bugail gasglu praidd o hyd at 100 o ddefaid unigol drwy ddefnyddio’r ddwy reol yma.
Fe ddefnyddiodd tîm Dr King declynnau GPS ar gefnau defaid y praidd a’r ci defaid er mwyn mapio’u symudiadau.

Robotiaid

Yn ôl y gwyddonwyr, gall y darganfyddiad arwain at ddatblygu robotiaid sy’n gallu casglu da byw, datblygu technegau rheoli torfeydd a dulliau newydd i lanhau’r amgylchedd.

“Os ydych chi’n gwylio cŵn defaid yn casglu defaid, mae’r ci yn symud yn ôl ac ymlaen tu ôl i’r praidd yn union y ffordd rydym ni wedi gweld yn ein model,” meddai Dr King, sydd wedi cyhoeddi’r ymchwil yng nghylchgrawn Interface y Gymdeithas Frenhinol.

“Roedd yn rhaid i ni feddwl am beth oedd y ci’n gallu ei gweld er mwyn datblygu ein model. Mae’r ci’n gweld pethau gwyn, gwlanog o’i flaen. Os yw’r ci’n gweld bylchau rhwng y defaid, neu os yw’r bylchau’n cynyddu, mae’n rhaid i’r ci ddod â’r defaid at ei gilydd.

“Gall yr wybodaeth hon gael ei defnyddio mewn sawl ffordd fel rheoli torfeydd, glanhau’r amgylchedd, casglu da byw, cadw anifeiliaid oddi wrth ardaloedd sensitif, a chasglu neu arwain grwpiau o robotiaid sy’n archwilio ardal benodol.”