Richard Dawkins - creu storm (David Shankbone CC by 3.0)
Mae Cymraes ifanc sydd â Syndrom Down wedi beirniadu sylwadau gwyddonydd enwog sy’n dweud y dylai menywod beichiog erthylu babanod sydd â’r cyflwr hwnnw.

Roedd datganiad yr Athro Richard Dawkins yn dangos y diffyg gwerth y mae llawer yn ei roi “ar bobol ag anabledd dysgu ac, yn yr achos hwn, pobl â Syndrom Down”, meddai Sara Pickard.

“Fel rhywun sydd â Syndrom Down, sydd wedi cyflawni llawer yn fy mywyd cymharol fyr, rwy’n gobeithio y bydd y ddadl yn helpu i herio’r ffordd negyddol y mae cymdeithas yn meddwl am bobol ag anabledd dysgu,” meddai.

Neges trydar

Roedd Richard Dawkins wedi dweud mewn neges trydar y dylai merched beichiog gael erthyliad os ydyn nhw’n gwybod fod Syndrom Down ar y baban yn y groth.

Fe ddywedodd yr arbenigwr ar eneteg fod parhau â beichiogrwydd o dan y fath amgylchiadau’n “anfoesol”.

Er ei fod wedi ymddiheuro am achosi storm ac am eirio blêr, mae wedi cadw at ei farn sylfaenol.

‘Ochr gadarnhaol’

Yn ôl Sara Pickard, sy’n gweithio ym mhencadlys yr elusen Mencap Cymru, roedd y gwyddonydd wedi anwybyddu elfen bositif y drafodaeth.

“Beth sydd wir yn fy nhristáu yw nad yw’r Athro Dawkins yn awgrymu y dylai teuluoedd archwilio’r manteision o gael plentyn anabl a’r cyfraniadau y gall plant ag oedolion â Syndrom Down ei wneud i’w teuluoedd, eu cymunedau a’n gwlad yn gyffredinol,” meddai.

“Fel cynghorydd cymuned lleol etholedig a rhywun sydd ar fin mynd i wirfoddoli am y trydydd tro yn Ne Affrica, i helpu plant ac oedolion sy’n agored i niwed, rwyf wedi synnu gan sylwadau’r Athro Dawkins.

“Dylai rhieni plant heb eu geni sydd â Syndrom Down gael y cyfle i drafod potensial y plenty i dyfu i fyny a gwneud cyfraniad cadarnhaol a gwerthfawr i gymdeithas yn union fel yr wyf fi wedi gwneud.”

‘Dim rheswm’

Roedd Cymdeithas Syndrom Down hefyd wedi ymateb trwy ddweud bod “pobol â Syndrom Down yn gallu ac yn byw bywydau llawn a chynhwysfawr, ac yn gwneud cyfraniad pwysig i’n cymdeithas ni”.

Ychwanegodd y gymdeithas nad yw bod â Syndrom Down ynddo’i hun yn rheswm teilwng dros erthylu, ond fod y dewis yn nwylo teuluoedd.

Ddechrau’r mis, am y tro cynta’ erioed, fe gafodd gwraig ifanc gyda Syndrom Down, Haf Thomas, ei gwneud yn aelod o’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol – oherwydd ei chyfraniad anferth yn codi arian at elusen.