John Griffiths fydd yn lansio'r llwybr
Mae llwybr gwyn wedi ei agor tros y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin.
Heddiw yw diwrnod lansiad swyddogol Llwybr Chwareli’r Mynydd Du – rhan o’r prosiect CALCH gwerth £300,000 sy’n dathlu hanes chwareli calchfaen y mynydd rhwng Brynaman a Llandeilo.
Yn anterth y diwydiant, roedd cynnyrch y chwareli’n cael ei alw’n “aur gwyn”.
Mae’r llwybr – sy’n cynnwys taflenni, trac sain ac App – wedi ei greu gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed Powys i arwain pobol o chwarel i chwarel.
Mae nifer o wirfoddolwyr yn rhan o’r lansiad – roedden nhw wedi helpu i weithio ar yr arolwg o’r safle ac wedyn y gwaith cloddio archeolegol a datblygu’r llwybr.
‘Cartref ysbrydol’
Llais y darlledwr Roy Noble sy’n tywys ymwelwyr tros y mynydd ac fe fydd yntau yn y lansiad gyda’r Gweinidog Treftadaeth, John Griffiths.
“Y Mynydd Du yw fy nghartref ysbrydol,” meddai Roy Noble sy’n dod o Frynaman. “Felly mae unrhyw ddigwyddiad neu fenter sy’n adrodd hanes chwedlau, digwyddiadau a lle dyn ar y rhostir hudol yma yn cael fy nghefnogaeth.
“Mae cael fy llais yn adrodd stori’r calch a’i defnydd yma yn bleser ychwanegol i fi.”
Yn ôl John Griffiths mae’r llwybr yn dweud hanes sydd wedi’i anghofio – am gyfraniad y chwareli at “adeiladu Cymru”.