Mae “pryder difrifol” wedi ei fynegi gan Fenter Iaith Abertawe ynghylch defnydd y cyngor o’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mewn llythyr agored, dywedodd y Fenter nad oedd darpariaeth gwasanaeth Cyngor a Dinas Sir Abertawe yn “ddigonol o gwbl”.

Maen nhw hefyd yn dadlau bod y ddarpariaeth yn mynd yn groes i Gynllun Iaith Gymraeg y cyngor.

Dywed hwnnw bod yn rhaid i wedd gyhoeddus fod yn ddwyieithog a bod yn rhaid i unrhyw wybodaeth i’r cyhoedd gael ei gynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ers i’r Fenter Iaith gysylltu efo’r cyngor mis Mehefin mae’r ddarpariaeth ar Facebook a Trydar wedi “gwella ychydig bach”, medden nhw.

Ond maen nhw’n mynnu nad yw “cyfieithu ambell neges yn unig” yn “digon da”. Mae “nifer o bobol” wedi cysylltu efo’r Fenter gan nodi “nad oes pwynt iddyn nhw ddilyn y cyfrifon Cymraeg” gan nad ydyn nhw i gyd yn y Gymraeg.

Mae’r Fenter yn rhoi her i’r cyngor “i godi safonau a nod y Cynllun Iaith yn llwyddiannus”.

Dywedodd lleferydd ar ran Cyngor Abertawe: “Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sylw cyfartal y Gymraeg a’r Saesneg ac rydym wedi bod yn trafod â Menter Iaith ynghylch Twitter a Facebook. Er bod llawer o’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn hollol ddwyieithog, rydym yn gweithio i wella’n perfformiad.”

Y llythyr yn llawn yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg