Bydd sioe nesa’ National Theatre Wales yn digwydd wrth droed Yr Wyddfa gyda’r gynulleidfa yn cael ei thywys ar daith i arsylwi arferion defaid mynydd.

Mae National Theatre Wales wedi cyhoeddi cast eu cynhyrchiad nesaf, The Gathering/Yr Helfa, ac mae’n gyforiog o wynebau sy’n adnabyddus i wylwyr Rownd a Rownd ar S4C.

Ffion Dafis (Rownd a Rownd), Emyr Gibson (‘Meical’ Rownd a Rownd), Gwyn Vaughan Jones (‘Arthur’ Rownd a Rownd), Gwion Aled Williams (‘Ifan’ Rownd a Rownd) a Meilir Rhys Williams (Zanzibar) fydd yr actorion ac mae’r cynhyrchiad yn benllanw tair blynedd o arsylwi bywyd yn Hafod Y Llan, fferm fynydd wrth droed Yr Wyddfa sy’n cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Disgrifir y gwaith fel “archwiliad pwerus o’r cylch blynyddol o ffermio defaid” ac fe all y gynulleidfa ddisgwyl taith ar droed a pherfformiadau wedi eu hysbrydoli gan y lleoliad eiconig yn Eryri a’i hanes.

Louise Ann Wilson yw cyfarwyddwr  Yr Helfa, gyda Siwan Llynor yn gyd-gyfarwyddwr, ac fe fydd yn cynnwys  barddoniaeth newydd gan fardd cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, yn ogystal â sain, ffilm a symud.

Mi fydd The Gathering/Yr Helfa yn agor yn fferm Hafod y Llan ar 12 Medi.