Mae arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, wedi cadarnhau wrth gylchgrawn Golwg ei bod mewn trafodaethau gyda’r Eisteddfod i ddenu’r Brifwyl i Geredigion.

Nid yw’r Genedlaethol wedi ymweld â’r sir ers iddi gael ei chynnal yn Aberystwyth yn 1992.

Yn ôl y Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, mae mynd i Geredigion yn awgrym i’w ystyried o dan drefn y cydweithio sy’n digwydd rhwng trefnwyr y Brifwyl a’r gymdeithas sy’n cynrychioli cynghorau sir Cymru.

“Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru yn sgrifennu at awdurdodau lleol Cymru ac yn eu gwahodd nhw i nodi diddordeb mewn cael Eisteddfod Genedlaethol neu Eisteddfod yr Urdd i’w hardal nhw,” eglurodd Elfed Roberts.

“Erbyn hyn, mi ydan ni wedi mapio lle’r mae’r Urdd a’r Genedlaethol yn mynd tan flynyddoedd cynnar y ddegawd nesaf, yn dilyn arwydd o awydd gan yr awdurdodau lleol. Ymhen blwyddyn neu ddwy, mae’n siŵr bydd llythyr arall yn mynd gan Gymdeithas i awdurdodau lleol i feddwl am 2022 ymlaen.

“Nid mympwy’r Eisteddfod ydi o; mae yna ddealltwriaeth yn bodoli rhwng Cymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru a’r Eisteddfod sut ydan ni wedi addunedu yr awn ni â’r Eisteddfod i unrhyw ran yng Nghymru cyn belled ag ein bod ni’n dod o hyd i safle addas,” meddai.

Barn Elfed Roberts ar Steddfod Llanelli yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.