Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y bydd glaw trwm yn cyrraedd Cymru heddiw, gan effeithio’r de yn benodol.

Mae’r rhybudd yn rhagweld mai siroedd Mynwy, Caerfyrddin, Ceredigion a Phowys fydd yn cael eu taro waetha’ brynhawn heddiw a heno. Dyw hi ddim yn amhosib y bydd stormydd o fellt a tharanau hefyd yn dod yn sgil y glaw.

“Dylai’r cyhoedd ddisgwyl llifogydd mewn mannau,” meddai’r Swyddfa Dywydd, “ac mae’n bosib y bydd hi’n melltio hefyd mewn rhai ardaloedd.

“Fe fydd cawodydd trwm, dwys, ac er bod y gwynt yn ysgafnach heddiw, fe fydd tua 30mm o law yn syrthio o fewn ychydig oriau heddiw.”