Dywed Heddlu Gwent bod dyn 65 oed o Lynebwy oedd wedi bod ar goll wedi ei ddarganfod yn ddiogel.

Roedd Roy Davies wedi ei weld y tro diwethaf yn Rhodfa York yng Nglynebwy tua 4 ar bnawn dydd Iau, 7 Awst.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod bellach wedi dod o hyd iddo’n ddiogel.