Roy Davies
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ynglŷn â dyn 65 oed o Lynebwy sydd ar goll.

Cafodd Roy Davies ei weld y tro diwethaf yn Rhodfa York yng Nglynebwy tua 4 ar bnawn dydd Iau, 7 Awst.

Mae ganddo wallt byr brown sy’n britho a llygaid glas. Y tro diwethaf cafodd ei weld roedd yn gwisgo crys glas a gwyn.

Credir ei fod yn gyrru car Renault Kapturd-que lliw oren gyda’r rhif cofrestru VE14 GRU. Mae’n debyg ei fod yn teithio’n aml i ardal y Fenni.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.