Sioned Eleri Roberts
Clarinetydd ifanc o Fangor sydd wedi ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar.

Er fod Sioned Eleri Roberts wedi ennill sawl gwaith ar yr unawd chwythbrennau, dyma’r tro cynta’ iddi gystadlu ar y cyfansoddi.

Yn ôl y beirniaid, hi oedd y gorau o ddigon wrth gyfansoddi darn ar gyfer ensemble llinynnau o 11 offeryn.

Yn ôl Euron J Walters a Lyn Davies, roedd hi wedi “cyflwyno rhywbeth dramatig a hudol”, dan y teitl Chwalfa.

Cefndir

Erbyn hyn mae Sioned Eleri Roberts yn diwtor clarinet gyda Chanolfan William Mathias ac ym Mhrifysgol Bangor, lle’r oedd hi wedi graddio gyda B Mus a dod yn ôl yn ddiweddarach i astudio MA trwy gynllun KESS.

Mae hi’n ennill y Tlws, gwobr o £500 ac ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo’i gyrfa