Mae Folly Farm yn Sir Benfro ymhith yr 20 sŵ gorau dros Ewrop ac yn bedwerydd dros y DU, yn ôl rhestr a luniwyd o adolygiadau gan deithwyr.

Roedd Folly Farm wedi cyrraedd safle 13 yn y rhestr gafodd ei gyhoeddi gan y wefan adolygu gwyliau, TripAdvisor.

Fe agorodd Folly Farm fel atyniad i dwristiaid ym 1988 ar ôl i’r ffermwr llaeth Glyn Williams a’i wraig Anne benderfynu arallgyfeirio. Bellach mae’r teulu i gyd yn rhan o’r busnes.

Mae Sŵ Caer ymysg y 10  sŵ gorau yn y byd, yn ail yn Ewrop ac yn gyntaf yn y DU.

Roedd gan y DU wyth sŵ yn y rhestr o 25 o’r rhai gorau yn Ewrop gyda Sŵ Colchester, Sŵ Paignton, Sŵ Blackpool, Parc Bywyd Gwyllt Durrell, Parc Bywyd Gwyllt a Gerddi’r Cotswold a Pharc Saffari Knowsley i gyd yn cael eu cynnwys.

Mae Sŵ Gaer yn gartref i fwy na 11,000 o anifeiliaid o fwy na 400 o rywogaethau ac maen nhw’n cael eu cadw mewn 110 erw o erddi sŵolegol.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Sŵ Gaer, Jamie Christon: “Rydym ni wrth ein boddau ein bod ni wedi derbyn y sêl bendith hon gan y cyhoedd.

“Diolch o galon i bob un person sydd wedi dod yma oherwydd, fel elusen gofrestredig, eu hymweliadau nhw sy’n ein helpu i gyflawni ein holl waith cadwraeth sy’n arbed rhywogaethau rhag diflannu, yma yn y DU, a thramor”

Y sw gorau yn y byd oedd Sŵ Henry Doorly yn Omaha, Nebraska, yn yr Unol Daleithiau.