Mae cynnydd wedi bod yn nifer y plant sy’n gallu siarad Cymraeg yn nhre’r Sosban, yn ôl Hywel Jones sy’n arbenigwr yn y maes…

Tra bo’r nifer o bobol hŷn yn Llanelli sy’n siarad Cymraeg wedi gostwng yn y degawd diwetha’, mae’r nifer o blant dwyieithog wedi codi o 30 i 33%.

Ond yn gyffredinol colli tir fu hanes yr iaith yn nhref fwya’ Sir Gaerfyrddin, lawr o 30% yn 2001 i 24% erbyn Cyfrifiad 2011.

Mae’r  5,732 yn Llanelli yn 7% o holl siaradwyr Sir Gaerfyrddin, ac mae 9% arall o siaradwyr y sir i’w cael yn Llanelli Wledig sy’ ar gyrion y dref ac yn ffinio â Thrimsaran, Pontyberem a Llangennech.

Llai o’r henoed yn medru’r iaith

Dros y degawd diwetha’ roedd y gostyngiad yn y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn Llanelli yn fwy ymhlith y rhai hynaf. Tra’r oedd bron hanner y rhai 65+ yn gallu siarad Cymraeg yn 2001 (44.4%), ychydig yn llai na thraean ohonyn nhw (32.3%) oedd yn ei medru erbyn 2011. Ar y llaw arall, gwelwyd cynnydd bach ymhlith y plant: lan o 30.3% yn 2001 i 33% yn 2011.

Mwy yn deall

Yn ogystal â’r bron 6,000 o siaradwyr Cymraeg, mae mwy o bobol yn Llanelli sy’n honni eu bod yn gallu deall Cymraeg llafar yn unig: 3,199 o bobol (13.3%).

O’r siaradwyr Cymraeg roedd 67% ohonyn nhw’n gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg hefyd. 77% yw’r ganran yn genedlaethol, a 75% yw canran Sir Gaerfyrddin gyfan.

Yr ysgrif gyfan gyda chartogram yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.